Angen 'gwella' gwasanaethau canser Cymru medd AS
- Cyhoeddwyd
Mae angen i wasanaethau canser yng Nghymru wella'n sylweddol yn ôl AS Llafur y Rhondda.
Mae Chris Bryant yn galw ar Lywodraeth Cymru i dargedu'r prinder o radiolegwyr a phatholegwyr yng Nghymru er mwyn gostwng amseroedd aros.
Mae disgwyl i Mr Bryant gymryd rhan mewn dadl yn San Steffan ddydd Mawrth ar y pwnc, ychydig fisoedd ar ôl iddo dderbyn triniaeth lwyddiannus ar ganser y croen.
Fis diwethaf, daeth Cymru'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno amseroedd aros unigol ar gyfer cleifion canser mewn ymgais i gyflymu'r broses o gael diagnosis a chynyddu'r nifer sy'n goroesi'r salwch.
'Angen gwneud mwy'
Y targed yw derbyn triniaeth o fewn 62 diwrnod o'r adeg mae rhywun yn derbyn diagnosis o ganser posib.
Ond yn ôl Mr Bryant mae angen gwneud mwy.
"Mae niferoedd y rheiny sy'n goroesi canser yng Nghymru ymysg y gwaethaf yn Ewrop, er ein bod ni wedi gweld gwelliant sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf," meddai.
"Os nad oes digon o radiolegwyr a phatholegwyr er mwyn ymdopi â'r gofynion cynyddol, yna mae perygl na fydd diagnosis cyflym a thriniaeth gyflym sy'n achub bywydau.
"Fy mhryder i yw ein bod yn cymryd cam yn ôl oherwydd eleni does dim digon o bobl wedi cael eu derbyn i hyfforddi mewn patholeg a radioleg."
Fe wnaeth y AS awgrymu y dylai fod "anogaeth ariannol" i ddenu arbenigwyr i rai ardaloedd o Gymru.
Ychwanegodd Mr Bryant: "Rwyf eisiau i ni godi'n gêm yng Nghymru ac mi fyddai'n siarad yn gwbl agored gyda fy nghydweithwyr yn y Cynulliad.
Rwy'n AS. Fe fyddai rhai yn dweud nad yw ddim o fy musnes i. Ond dwi'n ofni, fel rhywun sydd wedi derbyn diagnosis canser yn barod eleni - dwi ddim am adael fynd," meddai.
Cynllun newydd
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r GIG yng Nghymru i sicrhau fod pobl sy'n derbyn diagnosis o ganser yn cael eu trin mor fuan â phosib.
"Rydym eisoes wedi sefydlu cynllun newydd sydd wedi dyblu'r nifer o raglenni hyfforddiant ar gyfer radiolegwyr.
"Mae gwaith pwysig hefyd ar y gweill i wella'r capasiti diagnostig mewn radioleg, patholeg, endoscopi a genomeg."
Mae'r Athro Tom Crosby yn Gyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol Canser ar gyfer Cymru a dywedodd fod y galw am wasanaethau canser yn cyflymu'n sylweddol.
"Mae'r gweithlu yn hanfodol i gyrraedd y gofynion ac mae angen cynllun i gynyddu'r gweithlu meddygol a hyfforddiant gweinyddol yn ogystal â chadw'r staff sydd eisoes yn gweithio yn y maes."
Ychwanegodd Mr Bryant ei fod yn cymryd meddyginiaeth ddwywaith y dydd a'i fod yn teimlo'n iach ar ôl ei driniaeth canser.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019