Pryder prifysgol am y gost o brosesu fisas
- Cyhoeddwyd
Gallai oedi wrth brosesu ceisiadau am fisa i fyfyrwyr rhyngwladol gostio degau o filoedd o bunnoedd i brifysgol yng Nghymru.
Mae Prifysgol Caerdydd yn pryderu nad oes digon o apwyntiadau ar gael i sicrhau bod 1,000 o geisiadau myfyrwyr yn cael eu prosesu yr hydref.
Mae'n dweud y gallai gostio hyd at £200,000 i ddarparu gwasanaeth dros dro ychwanegol yn y brifysgol.
Dywedodd y Swyddfa Gartref fod fisas myfyrwyr yn cael eu prosesu o fewn "safonau gwasanaeth"
Chwe chanolfan yn unig
Mae'r pryderon yn deillio o newid yn y broses ar gyfer darparu'r elfen biometreg o geisiadau fisa sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i gynnal apwyntiadau mewn canolfannau penodol.
Mae Gwasanaeth Ymgeisio Fisa a Dinasyddiaeth Caerdydd (UKVCAS) yn un o chwe chanolfan graidd yn y DU sy'n darparu apwyntiadau am ddim.
Mae gan y cwmni Sopra Steria swyddfeydd ychwanegol ar ran y Swyddfa Gartref yng Nghasnewydd, Llandudno a Chaerdydd sy'n codi ffi.
Mae'r brifysgol yn honni nad oes digon o apwyntiadau am ddim i ateb y galw ac mae llawer o fyfyrwyr yn teimlo dan bwysau i uwchraddio eu cais i'r opsiwn 'blaenoriaeth' drud neu i deithio'n bell ar gyfer apwyntiadau mewn canolfannau eraill.
Yn ôl y brifysgol roedd swyddog o'r Swyddfa Gartref yn awgrymu bod modd talu cwmni i ddarparu'r gwasanaeth biometrig fel gwasanaeth dros dro mewnol, rhywbeth mae Prifysgol Caerdydd yn amcangyfrif gallai gostio rhwng £150,000 a £200,000.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd ei fod yn golygu "na fydd myfyrwyr rhyngwladol yn cael y fisa gofynnol tan yn hwyr yn eu hastudiaethau oni bai eu bod yn talu i uwchraddio eu ceisiadau neu fod y sefydliad yn cyflogi cwmni allanol ar wahân am gost sylweddol".
"Mae hwn yn fethiant gwasanaeth difrifol gan y Swyddfa Gartref a Sopra Steria sydd angen sylw ar unwaith i'w gywiro".
'Heriau digynsail'
Mae Aelod Seneddol Canol Caerdydd, Jo Stevens, wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref am yr oedi y gallai, yn ei hôl hi, gael effaith fawr ar brifysgolion eraill yng Nghymru hefyd.
"Mae'n rhaid i unrhyw ateb o'r Swyddfa Gartref ddod â dim cost i'n prifysgolion na'r myfyrwyr eu hunain", meddai.
"Mae prifysgolion Cymru yn wynebu heriau digynsail o ran cyllid ac mae hyn yn broblem gafodd ei greu gan y Swyddfa Gartref ei hun - mae gofyn i brifysgolion Cymru droedio'r bil yn ffiaidd".
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Yr amser aros cyfartalog ar gyfer apwyntiad fisa am ddim yng Nghaerdydd yw dau ddiwrnod ac mae fisas myfyrwyr yn cael eu prosesu ar hyn o bryd o fewn safonau'r gwasanaeth.
"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Sopra Steria i sicrhau bod apwyntiadau ar gael mewn safleoedd ledled y DU - gan gynnwys dau yng Nghaerdydd.
"Agorwyd chwe lleoliad gwasanaeth newydd drwy gydol mis Mai a mis Mehefin, gan gynnwys un yng Nghaerdydd, i ddarparu gwasanaeth ychwanegol i gwsmeriaid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019