Ffrwydrad garej Pont-y-pŵl: Un person wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod un dyn wedi marw wedi ffrwydrad ym mhentref Y Dafarn Newydd ger Pont-y-pŵl.
Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw wedi adnabod y corff yn ffurfiol, ond bod perchnogion yr eiddo'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Yn ôl llefarydd: "Nid ydym wedi sefydlu achos y farwolaeth - bydd hyn yn digwydd wedi archwiliad post mortem.
"Ar hyn o bryd mae'n rhy gynnar i ddweud a yw'r farwolaeth yn amheus ai peidio."
Mae swyddogion heddlu, ambiwlans a thân yn dal yn ymateb i'r sefyllfa ar stâd dai Coed Camlas, ym mhentref Y Dafarn Newydd.
Cafodd yr awdurdodau brys eu galw i'r stâd tua 11:10 ddydd Llun.
'Y lle'n fflamau'
Ychwanegodd llefarydd ar ran y llu: "O ganlyniad i ffrwydrad, mae difrod sylweddol wedi ei achosi i'r eiddo ac mae cordon yn ei le."
Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi anfon un ambiwlans a thri cherbyd ymateb i ddigwyddiadau mewn mannau peryglus.
Dywedodd un o gymdogion yr eiddo, Pauline McKane fod y garej wedi ffrwydro. Doedd hi ddim yn nabod y bobl sy'n byw yno a ddim yn gwybod os cafodd unrhyw un anaf.
"Fe glywais i sŵn uchel, gyda bang i ddechrau ac yna 'boom' enfawr ac fy ysgwydodd y tŷ.
"Roedd y lle'n fflamau... roedd e'n anghredadwy. O fewn munudau roedd y garej wedi mynd."
Dywedodd cymydog arall fod drws y garej wedi ei chwythu ar draws y stryd.
Mae cwmni Wales and West Utilities wedi dweud nad oedd y ffrwydrad yn gysylltietig â'r cyflenwad nwy i'r eiddo.