Cyhuddo dyn arall wedi marwolaeth Gerald Corrigan
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 36 oed wedi ymddangos o flaen ynadon yng Nghaernarfon wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i farwolaeth pensiynwr gafodd ei saethu gyda bwa croes ar Ynys Môn.
Mae Gavin Jones, o Fryngwran, wedi ei gyhuddo o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder trwy achosi tân bwriadol i ddinistio cerbyd Land Rover Discovery.
Bu farw Gerald Corrigan, 74, ar ôl cael ei saethu y tu allan i'w gartref ger Caergybi ym mis Mawrth, ac mae dyn arall o Fryngwran, Terence Whall, 38, eisoes wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Doedd dim cais am fechnïaeth ar ran Mr Jones ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Y Goron Caernarfon ar 27 Awst.
Dywedodd yr erlyniad bod yna "gysylltiad uniongyrchol" rhwng Mr Jones a'r achos yn erbyn Mr Whall.
Cafodd tri pherson arall eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i farwolaeth Mr Corrigan.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Brian Kearney o Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn "dal i apelio ar aelodau ein cymuned i'n helpu gyda'r ymchwiliad".