Dyn a dynes yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a dynes wedi eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu taro gan gerbyd nwyddau trwm yn Wrecsam.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Regent am tua 9:20 fore Mawrth.
Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans bod y ddau wedi eu cludo i Ysbyty Maelor Wrecsam ond does dim mwy o fanylion am eu cyflwr.
Roedd y ffordd ynghau am gyfnod wedi'r digwyddiad.