Mwy o ffermwyr yn gwneud cais am gymorth ariannol
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y ceisiadau am gymorth ariannol i deuluoedd, yn ôl elusen amaethyddol.
Mi ddywedodd Sefydliad Brenhinol Lles Amaethyddol (RABI) bod bywoliaeth ariannol nifer o ffermwyr Cymru yn y fantol.
Yn ystod chwe mis cyntaf 2019 mi gynyddodd eu taliadau 63% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2018.
Dywedodd prif weithredwr RABI, Alicia Chivers fod y galw yn cynyddu'n flynyddol.
"Mae'n anodd i ffermwyr ar hyn o bryd... mae'r straen yn anhygoel, a cham bach iawn ydy newid sefyllfa - o ymdopi i beidio ymdopi," meddai Ms Chivers.
Eglurodd bod materion fel TB a chlefydau eraill, tywydd gwael a'r ansicrwydd gwleidyddol parhaus i gyd yn cael effaith.
Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae incwm fferm ar gyfartaledd am y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2019 wedi gostwng 15% i £29,500 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Roedd ffermydd gwartheg a defaid tir isel wedi gostwng 29% - gydag incwm o £17,000 ar gyfartaledd.
Yn draddodiadol ffermwyr sydd wedi ymddeol neu'r rhai sydd wedi dioddef anafiadau wrth eu gwaith sydd wedi gofyn am grantiau, yn ôl Linda Jones, swyddog rhanbarthol Cymru.
Ond rhwng Ionawr a Mehefin 2019, mi dalodd RABI grantiau gwerth £95,000 i ffermwyr sy'n gweithio, i gymharu â'r £58,000 ei rhyddhau gan yr elusen dros yr un cyfnod y llynedd.
Mae hynny'n ychwanegol i £240,000 o gyllid Llywodraeth Cymru sy'n cael ei ddosbarthu gan yr elusen.
Sefyllfa 'drist iawn'
Dywedodd Mrs Jones fod yr arian yna'n cael ei ddefnyddio i "roi bwyd ar y bwrdd neu brynu gwisg ysgol" ymysg pethau eraill.
Rhybuddiodd nad yw tlodi gwledig yn cael sylw digonol: "Mae pobl yn gweld bod gan ffermwyr dir a thractorau, ond maen nhw'n anghofio mai'r banc sy'n berchen ar y tir hwnnw a'r tractorau."
Mae Dafydd Jones, cadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn dweud bod tlodi gwledig yn bryder wrth geisio denu pobl ifanc i fyd amaethyddiaeth.
"Mae'n anodd iawn, mae miloedd o bobl ifanc o'n hardaloedd gwledig yn symud i ddinasoedd er mwyn cael swyddi sy'n talu'n dda, ac mae hynny'n drist iawn."
Nid yw Olwen Ford, ffermwr cig eidion a defaid o Lanfrothen ger Porthmadog, yn un o'r rhai y mae'r elusen wedi eu cefnogi.
Ond mae hi wedi dechrau gyrru tacsi yn ogystal â rhedeg ei fferm er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd.
"Mae ein costau wedi codi o flwyddyn i flwyddyn ond nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu ym mhris y farchnad ers rhai blynyddoedd - sy'n ei gwneud yn anodd iawn aros yn broffidiol," meddai.
"Byddai'r rhan fwyaf o bobl sy'n ffermio wrth eu boddau'n gallu ffermio drwy'r amser - mae'n rhan o'ch enaid. Ond mae angen arian arnoch i fyw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd5 Mai 2019
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2019