Yr Eglwys yn penodi cynghorwyr i ddelio â her cefn gwlad
- Cyhoeddwyd
Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn penodi mwy o gynghorwyr bywyd gwledig ym mhob esgobaeth er mwyn ymateb i'r "heriau sy'n wynebu pobl sy'n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad".
Lle nad oes llefydd i gwrdd, a lle mae diffyg cyfleoedd i gymdeithasu, mae'r eglwys yn dweud bod pobl yn gallu dioddef o broblemau iechyd meddwl ac unigrwydd.
Yn ôl yr Hybarch Eileen Davies, Archddiacon Ceredigion a Chynghorydd Bywyd Gwledig Esgobaeth Tyddewi, yr eglwys leol yw'r unig adeilad cyhoeddus sydd yn dal ar agor mewn nifer o bentrefi gwledig.
Mae'r Eglwys bellach yn gobeithio gallu ehangu'r gwasanaeth fel bod cefnogaeth ar gael i ffermwyr ym mhob rhan o'r wlad.
Bydd y rhwydwaith o gynghorwyr gwledig yn adeiladu ar waith sydd eisoes yn cael ei wneud yn Esgobaeth Tyddewi gan 'Tir Dewi' - llinell gymorth a gwasanaeth gwrando gafodd ei sefydlu yn 2015 i gynnig cefnogaeth i ffermwyr.
Dywedodd Ms Davies, un o sefydlwyr Tir Dewi, bod galwadau i ehangu'r gwasanaeth i rannau eraill o Gymru: "Ry'n ni'n gweld yr angen - ry'n ni'n byw mewn byd a chymdeithas sydd yn unig iawn.
"Ry'n ni fel Eglwys wedi gofyn beth ydyn ni'n ei wneud i ateb gofynion y bobl sy'n teimlo mor unig ac mor ynysig yng nghefn gwlad.
"Ry'n ni'n gallu cynnig clust i wrando yn gyfrinachol a helpu pobl i gael hyd i help arbenigol lle mae angen, a thrwy hynny sicrhau pa bynnag ofyn sydd gan ffermwyr y gellir ei ateb ar eu cyfer nhw."
Mae gan Tir Dewi dros ugain o wirfoddolwyr sy'n gweithio yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin a dros y pedair blynedd ddiwethaf maen nhw wedi cefnogi 200 o unigolion.
Cafodd John James, ffermwr yn Sir Gâr sydd bellach yn ei 70au, brofiad o iselder 30 mlynedd yn ôl - mewn cyfnod pan roedd ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn is o lawer i gymharu â heddiw.
Gan gyfeirio at yr ardal ger ei fferm dywedodd John, "Pan edrychwch o'ch cwmpas allwch chi ddim meddwl am swyddfa well i weithio ynddi. Ond mae'n gallu bod yn swydd unig iawn."
'Dyw e ddim fel torri braich'
Yn ôl Mr James fe ddatblygodd yr iselder oherwydd cyfuniad o boen corfforol wedi'i achosi gan ffermio, hedfan isel yn yr ardal a straen meddyliol y gwaith.
Dywedodd: "Bydden i'n cerdded i nôl y da i mewn i odro a bydden i'n llefain, achos wrth eich bod chi'n methu cyflawni'r gwaith i gyd roedd materion ariannol yn dod mewn iddo fe. O'n i methu codi'r 'clusters' i odro.
"Dyw e ddim fel torri eich braich - mae hyn yn rhywbeth sy'n cripian lan arnoch chi yn raddol ac mae'n drist i feddwl am yr holl bobl dw i'n nabod sydd wedi colli'r frwydr achos y problemau hyn."
Mae cynghorwyr gwledig Tir Dewi yn ymweld â marchnadoedd ffermwyr yn rheolaidd i siarad a gwrando ar y pryd, neu i rannu manylion cyswllt er mwyn i unigolion gysylltu â nhw yn eu hamser eu hunain.
'Bywyd yn faich'
Yn ôl Eirios Thomas, un o'r gwirfoddolwyr, mae'r rhesymau pam mae ffermwyr yn cysylltu yn amrywio.
"Mae rhai yn cysylltu achos eu bod nhw'n teimlo'n unig, falle wedi colli rhiant mewn oed - rhywun oedd ganddyn nhw yn y tŷ yn gwmni gyda'r nos ac ati, a'u bod nhw nawr yn teimlo'n unig," meddai.
"Falle gofid TB a'r lleill wedyn yn teimlo bod pethau'n mynd yn drech na nhw - efallai rhywbeth syml iawn, fel tagio defaid, ond mae'n gallu mynd yn faich ar berson."
Mae'r undebau amaeth - NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru - yn dweud bod mynd i'r afael ag effeithiau iechyd meddwl gwael yn flaenoriaeth. Mae staff o'r ddau undeb wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn ystod y misoedd diwethaf.
Mae llawer mwy o gefnogaeth ar gael nawr na phan yr oedd problemau Mr James ar eu gwaethaf.
Dywedodd: "Yn ffodus iawn i fi, fe ddes i mas ohono fe a dw i wedi dysgu o'r peth.
"A dyna pam mae'r drafodaeth ynglŷn â thostrwydd y meddwl mor bwysig i fi - dyw ffermwyr ddim yn bobl sy'n mynd i siarad, ond mae Tir Dewi yn cynnig modd i bobl i droi at rywun a chael sgwrs, sgwrs a allai wneud gwahaniaeth."
Mae modd cysylltu â Tir Dewi ar 0800 121 4722.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2019
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2018