Geraint Thomas yn disgyn, ond yn dal yn ail yn y Tour

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Geraint Thomas ddioddef anafiadau i'r benelin a'i ben-glin wedi iddo ddisgyn

Mae Geraint Thomas yn dal yn ail yn y Tour de France er iddo ddisgyn ar Gymal 16 ddydd Mawrth.

Caleb Ewan enillodd y cymal, gyda Julian Alaphilippe yn cadw'i afael ar y crys melyn.

Fe ddisgynnodd Thomas - a hynny am y trydydd tro yn y ras eleni - gyda 130 cilomedr o'r cymal yn weddill.

Cafodd fân anafiadau, ond fe orffennodd yn ddiogel heb golli amser, ac mae'n dal 95 eiliad y tu ôl i Alaphilippe.

"Roedd gen i un llaw ar y bariau ac fe wnaeth y gêrs sticio ac fe ges i 'nhaflu oddi ar y beic ar gornel," meddai Thomas wrth ITV4 ar ôl y cymal.

"Ro'n i'n gwybod nad oedd ras fawr o 'mlaen i, felly nes i jyst ailymuno gyda'r grŵp."

Er ei fod yn holliach, bydd y Cymro'n gobeithio na fydd tair damwain gyda'i gilydd yn effeithio ar ei obeithion o ennill y Tour.

Dim ond 39 eiliad sydd rhwng Thomas yn yr ail safle ac Emanuel Buchmann sy'n chweched.

Bydd y tri chymal caled yn yr Alpau sy'n debyg o benderfynu pwy fydd yn ennill y Tour yn 2019 yn dechrau ddydd Iau.

Safleoedd GC Tour de France 2019

  1. Julian Alaphilippe - 64awr 57munud 30eiliad

  2. Geraint Thomas +1mun 35eil

  3. Steven Kruijswijk +1mun 47eil

  4. Thibaut Pinot +1mun 50eil

  5. Egan Bernal +2mun 2eil

  6. Emanuel Buchmann +2mun 14eil