Cate Le Bon wedi ei henwi ar restr fer Gwobr Mercury

  • Cyhoeddwyd
Cate Le BonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cate Le Bon yn perfformio ar lwyfan Gŵyl Pitchfork yn Chicago eleni

Mae Cate Le Bon wedi cael ei henwi ar restr fer Gwobr Mercury 2019.

Mae'r Gymraes, sy'n wreiddiol o Benboyr yn Sir Gaerfyrddin, ymysg 12 o artistiaid sy'n cystadlu am albym orau'r flwyddyn.

Ymhlith yr enwau eraill ar y rhestr mae Foals, The 1975, Anna Calvi, Dave a IDLES.

Cafodd y rhestr ei chyhoeddi ddydd Iau mewn seremoni oedd yn cael ei chyflwyno gan y DJ Huw Stephens.

Ers ei sefydlu yn 1992, mae Gwobr Mercury - gwobr gerddorol flynyddol sy'n cael ei rhoi i'r albym orau yn y DU neu Iwerddon - wedi tyfu i fod yn un o'r rhai mwyaf uchel-ei-pharch yn y diwydiant.

Bydd y noson wobrwyo yn cael ei chynnal yn Hammersmith, Llundain ar 19 Medi.