Prifysgol Abertawe yn diswyddo is-ganghellor

  • Cyhoeddwyd
Richard B DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Athro Richard B Davies wedi bod yn is-ganghellor ar y brifysgol ers 2003

Mae Prifysgol Abertawe wedi diswyddo eu his-ganghellor, yr Athro Richard B Davies a Deon yr Ysgol Reolaeth, yr Athro Marc Clement, yn dilyn ymchwiliad.

Dywedodd y brifysgol bod y ddau wedi eu diswyddo yn sgil "camymddwyn dybryd" ond ni roddwyd fanylion pellach.

Dywed y brifysgol fod yr ymchwiliad annibynnol hefyd wedi gwrthod cwynion gan ddau weithiwr a wnaed ar ôl iddynt gael eu hatal o'u swyddi.

Mae BBC Cymru yn deall bod yr Athro Davies a'r Athro Clement yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.

Dywedodd llefarydd fod yr ymchwiliad annibynnol wedi ei gynnal gan fargyfreithiwr cyflogaeth blaenllaw, a bod yna hefyd archwiliad manwl pellach gan banel disgyblu diduedd.

"Mae penderfyniad ar drydydd aelod o staff fel rhan o broses ddisgyblu eto i'w benderfynu ac felly nid oes modd rhoi sylw pellach am y rheswm dros ei ddiarddel ar hyn o bryd," meddai'r llefarydd.

Mewn datganiad, dywedodd yr Athro Clement ei fod wedi'i dristau gan y penderfyniad i'w ddiswyddo.

Cafodd yr Athro Richard B Davies a'r Athro Marc Clement ynghyd â dau aelod arall o staff, eu gwahardd ym mis Tachwedd, gyda phumed aelod o staff yn cael ei wahardd ym mis Chwefror eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brifysgol eisoes wedi penodi is-ganhellor newydd nôl ym mis Mawrth

Mae honiadau fod y gwaharddiadau wedi'u cysylltu â phrosiect pentref llesiant gwerth £200m yn Llanelli.

Roedd y ddau wedi'u gwahardd ar gyflog llawn ac mae'r ddau wedi gwadu'n llwyr yr honiadau yn eu herbyn.

Fe wnaeth yr Athro Davies gwyno am y penderfyniad gwreiddiol i'w wahardd gan ysgrifennu llythyr at ei gyflogwyr yn cwyno am ei driniaeth ac yn dweud y bydd yn brwydro i adfer ei enw da.

Roedd Prifysgol Abertawe eisoes wedi cyhoeddi penodiad yr Athro Paul Boyle fel is-ganghellor newydd y sefydliad nôl ym mis Mawrth.

Ar y pryd dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol fod yr Athro Davies wedi cyhoeddi fis Medi diwethaf ei fwriad i ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2018/19.