Prifysgol Abertawe yn penodi is-ganghellor newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi penodiad yr Athro Paul Boyle fel is-ganghellor newydd y sefydliad.
Fe fydd yn olynu'r Athro Richard B Davies, sydd wedi ei wahardd dros dro o'i swydd tra bod ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal iddo ef a phedwar aelod o staff mewn cysylltiad â phrosiect gwerth £200m yn Llanelli.
Fe gafodd penodiad yr Athro Boyle, sy'n Is-ganghellor a Llywydd ar Brifysgol Caerlŷr ar hyn o bryd, ei gadarnhau yn dilyn cyfarfod arbennig o gyngor Prifysgol Abertawe ddydd Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe fod yr Athro Davies wedi cyhoeddi fis Medi diwethaf ei fwriad i ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2018/19.
Mae'r Athro Davies wedi cwyno am y penderfyniad i'w wahardd ac mae wedi ysgrifennu llythyr at ei gyflogwyr yn cwyno am ei driniaeth ac yn dweud y bydd yn brwydro i adfer ei enw da.
Dywedodd y brifysgol fod yr ymchwiliad yn parhau ac nad oes modd gwneud sylw pellach ar y mater.
Dywedodd yr Athro Boyle: "Rwyf ar ben fy nigon i fod yn ymuno â Phrifysgol Abertawe wrth iddi nesáu tuag at ei chanmlwyddiant yn 2020.
"Mae cymaint wedi ei gyflawni yn Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y campws newydd, twf yn niferoedd myfyrwyr, ac esgyn safleoedd mewn nifer o dablau cynghrair pwysig.
"Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â staff a myfyrwyr i adeiladu ar y llwyddiant hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019