Dysgu'r iaith i adrodd chwedlau'n Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cyn y gystadleuaeth, dywedodd Fiona Collins ei bod yn "dal i ddysgu Cymraeg hyd heddiw"

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol fe fydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi. Pedwar sydd wedi dod i'r brig eleni.

Bu BBC Cymru yn eu holi ac yn gofyn iddynt pam eu bod wedi penderfynu dysgu'r iaith.

Mae Fiona Collins sydd yn byw yng Ngharrog, Sir Ddinbych wrth ei bodd yn adrodd chwedlau'r ardal. Dyma yw ei gwaith bob dydd ac mae'n teithio ysgolion yn adrodd straeon.

"Dwi'n hoffi hen chwedlau Mabinogi. Dyna fy hoff beth rili."

Dyma'r rheswm pam y penderfynodd fynd ati i siarad yr iaith.

Er iddi gael ei geni yn Hampshire, roedd ei mam yn Gymraes ond ddim yn medru'r iaith. Byddai ei mam yn "falch iawn" pe byddai'n gwybod ei bod wedi dysgu'r Gymraeg meddai.

Am gyfnod bu'n byw yn Sir Fôn cyn symud i Lundain. Ond "o'n i wastad isio dod yn ôl i Gymru ac yn 2001 nes i'r penderfyniad i symud".

Ar ôl dechrau cael gwersi Cymraeg cafodd ei hysgogi i ddal ati ar ôl i'w thiwtor ddweud wrthi y byddai'n medru gwneud arholiad TGAU yn y pwnc.

"Dwi'n meddwl bod cael ryw nod penodol fel arholiad yn helpu, yn hwb i fi. Dydy o ddim yn gweithio i bawb.

"Fyswn i ddim yn awgrymu bod pawb yn neud arholiadau ond i fi..nes i blaenori'r dosbarthiadau, nes i wrthod gwaith yn hytrach na methu dosbarth."

Yn ôl Eirian Jones, sydd wedi byw yng Ngharrog ers blynyddoedd mae gan Fiona Collins y gallu i ysbrydoli eraill.

"Hi mewn gwirionedd sy'n gyfrifol bod 'na ddosbarth Cymraeg wedi dechrau yn y pentref yma ers i mi ymddeol ryw bedair/bum mlynedd yn ôl. Mae'n ddeallus yn y ffordd mae yn cael pobl eraill i ddod efo hi ar y trên i ddysgu'r iaith."

Byddai ennill y wobr Dysgwr y Flwyddyn yn y brifwyl yn golygu llawer iddi.

"Fysa'r posibilrwydd i fod yn fath o llysgennad iaith ac hefyd llysgennad y chwedlau, ac yn rhoi hawl i fi gysylltu â tiwtoriaid, a cynnig dod i neud sesiwn stori i ddangos pa rôl fysa'r chwedlau yn gallu gwneud. Fyswn i mor hapus gallu cefnogi dysgwyr eraill."

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod seremoni Dysgwr y Flwyddyn ar lwyfan y Pafiliwn, nos Fercher 7 Awst.