Y bwlch rhwng trethi a gwariant cyhoeddus yn lleihau
- Cyhoeddwyd
Mae'r bwlch rhwng y swm sy'n cael ei dalu mewn trethi yng Nghymru a'r hyn mae Cymru'n ei gael yn ôl mewn gwariant cyhoeddus wedi lleihau yn y tair blynedd diwethaf, yn ôl corff ymchwil annibynnol.
Yn ôl dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, mae Cymru'n codi llai o arian mewn trethi nag y mae'n ei dderbyn gan Drysorlys y DU.
Ond mae adroddiad prosiect Dadansoddi Cyllid Cymru yn tanlinellu mai dyna'r achos hefyd ymhob rhan o'r DU, ac eithrio Llundain a de ddwyrain Lloegr, gan fod economi'r DU wedi ei chanoli i raddau mor helaeth yn yr ardaloedd hynny.
Mae hefyd yn nodi mai gostyngiad mewn gwariant cyhoeddus - 10% yn llai nag yn 2009-10 - sy'n achosi i'r bwlch gau, yn hytrach na chynnydd yn enillion pobl Cymru a'r swm maen nhw'n ei dalu mewn trethi.
Roedd gwariant cyfalaf y pen yng Nghymru 4.8% yn is na'r cyfartaledd ar draws y DU.
Mae gwariant ar drafnidiaeth, gwyddoniaeth a thechnoleg wedi bod yn neilltuol o isel.
'Economi wannach'
Cafodd yr astudiaeth ei llunio ar sail amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Roedd gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn 2017-8 £14.7bn yn uwch na chyfanswm y trethi a gafodd eu casglu yn ystod y flwyddyn flaenorol, ond £13.7 bn oedd y bwlch eleni.
Dim ond yng ngogledd Iwerddon roedd yna fwlch mwy.
Dywedodd Dr Ed Gareth Poole, arweinydd academaidd Dadansoddi Cyllid Cymru: "Tra bo'r canlyniadau yma ar sail amcangyfrifon yr ONS, does dim dianc rhag y ffaith bod ffactorau hanesyddol wedi arwain at economi a sail treth wannach o lawer yng Nghymru nag yng ngweddill y DU."
Roedd gwariant y pen yng Nghymru ar ei lefel uchaf yn 2011/12.
Mae'r adroddiad yn darogan y gallai ddychwelyd i'r lefel yna yn 2023/24, ond mae'n rhy gynnar i ddarogan sut bydd Brexit yn cael ei ddatrys ac effeithiau pa bynnag gynlluniau fydd gan y Canghellor newydd, Sajid Javid.
Mae Llywodraeth Cymru yn codi ei threthi ei hun erbyn hyn hefyd ond ddim gymaint â'r hyn mae'n ei wario.
O'r £29bn y mae disgwyl i'w gasglu mewn refeniw yn y flwyddyn ariannol eleni, bydd 17.5% yn dod o drethi wedi eu casglu gan lywodraeth ac awdurdodau lleol Cymru, ond maen nhw'n gwario 55% o'r holl wariant cyhoeddus yng Nghymru.
Yn ôl Dr Poole fe allai'r ymchwil bod yn "amhrisiadwy" o ran siapio'r dadleuon ynghylch ariannu Cymru wedi Brexit ac annibyniaeth i Gymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2016