'Bydd y canlyniad yn atsain yr holl ffordd i San Steffan'
- Cyhoeddwyd
"Dwi wedi pleidleisio i'r Ceidwadwyr gydol fy mywyd, ond na'i ddim pleidleisio trosoch chi."
Gyda hynny, mi ruodd y Range Rover mawr du i ffwrdd gan adael Chris Davies, yr ymgeisydd Ceidwadol yn 'sidro beth oedd wedi digwydd.
"Ydy hynny'n digwydd yn aml?" gofynnais, wrth baratoi i ffilmio cyfweliad gyda'r cyn-Aelod Seneddol.
"Na, ddim felly," oedd ei ateb.
Y rheswm fod yr isetholiad yn digwydd ydy fod un o bob pum etholwr ym Mrycheiniog a Sir Maesyfed wedi pleidleisio i gael gwared â Mr Davies ar ôl iddo bledio'n euog i gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.
Mae o'n dweud ei fod wedi ei synnu ar yr ochr orau fod etholwyr yn barod i roi ail gyfle iddo.
Gyda Boris Johnson wrth y llyw, mae'n credu fod ganddo obaith gwell o lwyddo, yn enwedig mewn etholaeth lle wnaeth Plaid Brexit mor dda yn yr etholiadau Ewropeaidd yn ddiweddar.
Mwyafrif sylweddol yn 2017
Fo oedd yr Aelod Seneddol ers 2015 ac roedd ganddo fwyafrif o 8,000 ar ôl etholiad 2017.
Ond roedd hynny cyn i 10,005 o'i etholwyr arwyddo'r ddeiseb i gael gwared ohono a chyn i Blaid Brexit fodoli.
Ond gan fod Boris Johnson yn ffigwr mor amlwg o blaid Brexit, ydy o'n mynd i lorio plaid Nigel Farage?
"Na, tydan ni ddim yn meddwl," oedd ateb Des Parkinson, ymgeisydd Plaid Brexit yn yr isetholiad.
"Mae pobl wedi gwybod mai Boris fyddai'n arwain ers tro, ac maen nhw'n dal i'n cefnogi ni felly fydd o'n gwneud dim gwahaniaeth."
Mae'n credu y byddan nhw'n gwneud yn well na'r Ceidwadwyr gan gymryd cyfran sylweddol o'u cefnogwyr, ond tydi o ddim yn siŵr fydd hynny'n ddigon i guro'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mi gawson nhw hwb pan ddywedodd Plaid Cymru a'r Blaid Werdd na fyddan nhw'n sefyll er mwyn helpu plaid arall sy'n gwrthwynebu Brexit.
Yn Jo Swinson, mae ganddyn nhw ddynes yn arwain am y tro cyntaf, ac yn ôl y polau piniwn maen nhw ar i fyny ar ôl cyfnod yn y diffeithwch gwleidyddol.
Pan ddaeth hi i ymgyrchu gyda'u hymgeisydd Jane Dodds, mi ddywedodd y gallai cyd-weithio rhyng-bleidiol o'r fath ddigwydd eto yn y dyfodol ac y bydden nhw yn fodlon peidio sefyll mewn rhai etholaethau.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynrychioli'r sedd yma yn y gorffennol, ac maen nhw'n obeithiol o'i chipio'n ôl y tro yma.
Bwriad Tom Davies ydy ennill ei ail isetholiad mewn saith mis. Mi enillodd yr ymgeisydd Llafur isetholiad i Gyngor Tref Aberhonddu ym mis Rhagfyr.
Roedd yn derbyn fod yna aneglurder wedi bod o ran safbwynt y blaid Lafur ar Brexit, ond fod hynny bellach wedi newid a bod etholwyr yn derbyn hynny.
Iddo fo, mae dod â pholisïau'r Ceidwadwyr o dorri gwariant cyhoeddus hefyd yn fater oedd yn codi'n aml wrth iddo ymgyrchu.
Does dim dwywaith fod pobl yn yr etholaeth yn flin - mae hyd yn oed ymgeisydd y Monster Raving Loony Party, Lady Lily The Pink yn flin ac yn dweud fod angen llais i bobl sydd wedi hen laru ar gecru'r pleidiau eraill.
Ar ôl mynnu cymaint o sylw dros y blynyddoedd diwethaf, prin iawn ydy'r sôn am UKIP a'u hymgeisydd Liz Phillips. Wedi gwneud cymaint i ennill y refferendwm yn 2016, mi fydd yr isetholiad yn gyfle i weld ydy tranc y blaid ers hynny am barhau.
Mae'r etholaeth yn anferth, y mwyaf yng Nghymru a Lloegr, a'r mwyafrif ohono yn wledig.
Ond er hynny mi fydd y canlyniad ddydd Iau nesaf yn atsain yr holl ffordd i San Steffan.
Nid yn unig oherwydd y bydd yn effeithio ar fwyafrif trwch blewyn y Llywodraeth, ond mi fydd hefyd yn dangos pa mor boblogaidd ydy Boris Johnson fydd, yn ei dro, yn dylanwadu ar ei awydd o i alw etholiad cyffredinol.
Mae wedi dweud yn blwmp ac yn blaen na fydd hynny'n digwydd - ond tybed a fyddai buddugoliaeth ysgubol yma yn ddigon i newid ei feddwl.
Yn Eryri y penderfynodd Theresa May alw etholiad cyffredinol yn 2017. Tybed fyddai crwydr ym Mannau Brycheiniog yn cael effaith debyg ar ei holynydd?
Mae'r rhain yn ddyddiau gwleidyddol digon dyrys, gydag ansicrwydd dros Brexit ac effaith toriadau ar wariant cyhoeddus yn parhau.
Mae gallu'r pleidiau gwleidyddol Prydeinig i ddibynnu ar gefnogaeth wedi hen bylu, ac wythnos nesaf mi gawn ni weld beth fydd goblygiadau hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2019