Ysbyty yn anfon cleifion adref ar ddiwrnod llawdriniaeth

  • Cyhoeddwyd
Vanessa Bryan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Vanessa Bryan, 47, ddod adref ar ddiwrnod ei llawdriniaeth

Ysbyty Maelor yn Wrecsam ydy'r cyntaf yng Nghymru i ganiatáu cleifion sydd wedi cael clun newydd i fynd adref ar ddiwrnod eu llawdriniaeth.

Ar gyfartaledd mae cleifion yn aros yn yr ysbyty am dridiau.

Ond mae rhai bellach yn cael cynnig gadael yn fuan a chael eu monitro o adref gan staff meddygol.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod hyn yn lleihau'r risg o heintiau ac yn rhoi llai o bwysau ar y rhestr aros.

'Gwella'n gynt adref'

Mae'r cynnig yn cael ei roi i bobl sy'n iau na 70 oed, mewn iechyd da yn gyffredinol ac sydd â chefnogaeth ddigonol adref.

Mae Vanessa Bryan - sy'n 47 oed ac o ardal Bryn Teg yn Wrecsam - wedi bod yn dioddef o arthritis yn ei chlun ers dwy flynedd.

Fe gafodd adael yr ysbyty ar ddiwrnod ei llawdriniaeth, ac fe ddywedodd ei bod hi "mor braf bod adref" yn lle aros yn yr ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cleifion yn buddio o fod yn gyfforddus yn eu cartrefi, yn ôl Phyllis Hughes

Dywedodd ei nyrs, Phyllis Hughes, fod cleifion yn gwella'n gynt o fod adref.

"Maen nhw'n cysgu'n well, maen nhw eisiau dod adref ac mae'r cyfleusterau yna i gefnogi hynny," meddai.

"Mae Vanessa yn teimlo'n well ym moethusrwydd ei chartref ei hun ac felly pam ddim [gadael iddi fynd adref], cyn belled â bod hynny'n saff?"

Mae'r bwrdd iechyd yn gobeithio cynnig y gwasanaeth i gleifion sydd wedi cael llawdriniaethau eraill yn y dyfodol, lle bo hynny'n briodol.