Arolwg damniol yn ychwanegu at broblemau staffio
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg damniol o wasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi ychwanegu at broblemau staffio yn yr ardal, yn ôl adroddiad.
Mae'r ddogfen yn nodi fod absenoldeb ymhlith bydwragedd yn uchel iawn - 11% - ac yn awgrymu fod salwch a straen yn dilyn cyhoeddi ymchwiliad annibynnol i broblemau mamolaeth yn rhannol gyfrifol.
Fe amlygodd yr ymchwiliad hwnnw ym mis Ebrill gyfres o ffaeleddau difrifol yng ngofal mamau a babanod.
O ganlyniad fe gafodd gwasanaethau mamolaeth Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant eu gosod dan "fesurau arbennig".
Ond ers hynny, yn ôl yr adroddiad mewnol, mae prinder bydwragedd a meddygon yn dal i gael effaith ar ofal.
Bydd yr adroddiad, sy'n amlinellu maint yr heriau sy'n parhau i effeithio ar wasanaethau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg, yn cael ei drafod gan aelodau'r bwrdd ddydd Mercher.
Cwynion yn parhau
Mae'r ddogfen hefyd yn datgelu fod y bwrdd yn parhau i dderbyn cwynion gan rai mamau, yn cynnwys mamau yn sôn am "ymddygiad ac agwedd amhroffesiynol" gan rai bydwragedd, yn enwedig gyda'r nos.
Ar un achlysur fe wnaeth mam ddechrau crïo o ganlyniad i agwedd ymosodol un fydwraig.
Soniodd mam arall iddi glywed bydwragedd yn gwneud sylwadau dilornus am eu cydweithwyr.
O ganlyniad i bryderon fel hyn mae'r bwrdd bellach yn holi barn cleifion ddwywaith yr wythnos, er, yn ôl yr adroddiad, fod y mwyafrif helaeth o famau yn cael profiadau "da iawn".
Mae'r ddogfen hefyd yn nodi fod yna 14 o swyddi gwag ymhlith bydwragedd a phedair swydd wag ymhlith meddygon ymgynghorol, a bod 118 o "achosion" o bryder wedi cael eu cofnodi yng ngwasanaethau mamolaeth yr ardal yn ystod mis Mehefin.
Roedd y rhain yn cynnwys pum achos o "ddifrifoldeb cymedrol" - gan gynnwys rhywun yn cael ei hanafu gan nodwydd a babi yn cael anaf yn ystod genedigaeth Cesaraidd.
Dywedodd yr adroddiad fod cyfarfodydd wythnosol i drafod y fath ddigwyddiadau bellach yn cael eu cynnal yn Ysbyty'r Tywysog Charles - lle mae genedigaethau cymhleth yn digwydd - a chyfarfod bob pythefnos yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Yn ôl yr adroddiad mae nifer y staff sy'n mynychu'r cyfarfodydd hynny wedi "cynyddu'n aruthrol".
Cafodd panel annibynnol ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill i fonitro a herio gwelliannau mewnol Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Bydd y panel yn ymchwilio'n ddyfnach i achosion difrifol yn ymwneud â mamau a babanod yn ymestyn yn ôl ddegawd.
Mae prif weithredwr y bwrdd iechyd, Allison Williams, yn absennol oherwydd salwch ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019