Ailarestio dyn wedi marwolaeth menyw, 21, yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Lauren GriffithsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Lauren Griffiths ei ddarganfod yn Cathays ddiwrnod olaf Ebrill

Mae Heddlu De Cymru wedi ailarestio dyn mewn cysylltiad â marwolaeth menyw 21 oed yng Nghaerdydd.

Cafodd corff Lauren Griffiths ei ddarganfod mewn fflat yn ardal Cathays o'r brifddinas am tua 18:30 ar ddydd Mawrth, 30 Ebrill.

Y noson honno fe gafodd dyn 22 oed ei arestio cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu wrth i'r ymchwiliad barhau.

Ddydd Mawrth, dywedodd yr heddlu eu bod wedi ailarestio'r dyn yn ei gartref yn Wrecsam wedi i wybodaeth newydd ddod i law.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Wales o Heddlu'r De: "Mae'n dri mis ers i gorff Lauren gael ei ddarganfod, ac ers hynny rydym wedi bod yn ymchwilio'n drwyadl i amgylchiadau ei marwolaeth.

"O ganlyniad i'r ymholiadau rydym wedi ailarestio dyn, ac mae'n cael ei holi mewn gorsaf heddlu yn y gogledd.

"Rydym yn parhau i dderbyn gwybodaeth gan y cyhoedd, ac yn ddiolchgar am hynny, ond hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un arall sy'n medru cynnig gwybodaeth bellach."

'Chwalu traddodiad teulu'

Mewn datganiad, dywedodd teulu Lauren, sy'n byw yn ardal Croesoswallt: "Mae'r tri mis diwethaf wedi bod yn annioddefol.

"Mae cymaint o golled ar ôl Lauren. Hi oedd cannwyll ein llygaid. Mae hyn wedi chwalu'n bywydau.

"Roedd Lauren i fod i fynd ar wyliau teulu ym mis Awst. Wrth gwrs roedd rhaid canslo gan adael ei brodyr a chwiorydd ifanc wedi drysu ac yn drist.

"Roedd y gwyliau yma yn draddodiad teuluol blynyddol sydd bellach wedi chwalu. Dyna sut yr ydym yn teimlo hefyd - wedi chwalu.

"Os oes gan unrhyw un wybodaeth, plîs dewch i gysylltiad â'r heddlu."

Mae profion pellach yn cael eu cynnal i ganfod union achos ei marwolaeth.

Mae ditectifs yn arbennig o awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd yn adnabod Lauren, ac oedd wedi siarad gyda hi rhwng Mawrth 2018 ac Ebrill 2019.

Dylai pobl ffonio'r heddlu ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1900154230.