Drakeford: 'Annibyniaeth yn codi ar yr agenda gwleidyddol'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford a Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mark Drakeford drafod annibyniaeth i Gymru gyda Boris Johnson yn ystod eu cyfarfod ddydd Mawrth

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud wrth Boris Johnson fod y drafodaeth ynghylch annibyniaeth i Gymru yn codi'n uwch ar yr agenda gwleidyddol.

Fe wnaeth Mark Drakeford gyfarfod â Mr Johnson yn y Senedd ddydd Mawrth fel rhan o ymweliad cyntaf y Prif Weinidog newydd â Chymru.

Dywedodd Mr Drakeford na fyddai "canu 'Rule Britannia' a chwifio'r Union Jack" yn ddigon i amddiffyn y Deyrnas Unedig.

Honnodd bod pryderon ynglŷn â dyfodol y DU "yn fwy heddi nag unrhyw amser dwi wedi bod yn rhan o'r byd gwleidyddol".

Dywedodd Mr Johnson yn ystod ei ymweliad mai penderfyniad i'r Undeb Ewropeaidd yw a fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE heb gytundeb.

Ond yn ôl Mr Drakeford Mr Drakeford roedd gan y ddau "wahaniaeth barn sylfaenol ar Brexit" yn ystod eu trafodaeth ddydd Mawrth.

Ychwanegodd na gafodd synnwyr am beth yw cynllun Mr Johnson ar gyfer sicrhau cytundeb gyda'r UE.

"Rwy'n credu ei bod yn deg i ddisgwyl gwell ddealltwriaeth o'r manylion na'r hyn gafodd ei arddangos heddiw," meddai Mr Drakeford.

'Brexit wedi newid y DU'

Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Mercher, dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod wedi mynegi ei bryderon am ddyfodol y DU.

"Roedd rhaid i fi godi'r pwnc 'na gyda fe oherwydd y sefyllfa yn Yr Alban, y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon ac ynys Iwerddon," meddai.

"Mae'r pethau yn y DU wedi newid ac mae Brexit wedi creu mwy o drafodaethau am ddyfodol y DU.

"Dyna pam o' ni'n dweud wrtho fe, bydd rhaid iddo fe helpu i feddwl am newid sut mae pethau wedi cael eu rhedeg yn y gorffennol, achos fydd hynny ddim yn ddigon cryf i helpu ni gadw'r DU yn llwyddiannus ar ôl Brexit."

rali Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Fe heidiodd miloedd o bobl i Gaernarfon i orymdeithio o blaid annibyniaeth dros y penwythnos

Wrth drafod y mater o annibyniaeth i Gymru, ychwanegodd Mr Drakeford: "Dwi'n meddwl bod annibyniaeth wedi codi yn y trafodaethau cyhoeddus ac mae pobl yn meddwl fwy am annibyniaeth.

"Wedes i hynna wrtho fe. Ac, wrth gwrs, roedd e wedi dod lawr o'r Alban ble mae annibyniaeth ar dop yr agenda ac fe wedes i wrtho fe bod mwy o ddiddordeb, bod mwy o sgwrs ynghylch annibyniaeth.

"Wrth gwrs, pobl sy'n cefnogi annibyniaeth yma yng Nghymru, lan iddyn nhw fydd e i esbonio i bobl sut ma' hynny'n mynd i weithio ac ateb nifer fawr o gwestiynau difrifol.

"Ac i bobl fel fi sydd eisiau gweld Cymru ddatganoledig gryf ond hefyd dyfodol i Gymru mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus, dyna'r sefyllfa fydd rhaid i fi esbonio i bobl."