Boris Johnson yn addo hwb i amaeth wrth ymweld â Chymru
- Cyhoeddwyd
Mae Boris Johnson wedi ymweld â Chymru am y tro cyntaf fel prif weinidog.
Ar ymweliad â fferm yn y de fore Mawrth, fe wnaeth yr arweinydd Ceidwadol addo y bydd amaethyddiaeth yn ffynnu ar ôl Brexit.
Daw ei sylwadau ar ôl rhybudd y gall "aflonyddwch sifil" fod yn bosib yng nghefn gwlad Cymru os yw Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Fe wnaeth Mr Johnson hefyd gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ddywedodd bod "gwahaniaeth barn sylfaenol" rhwng y ddau ynglŷn â Brexit.
Daw'r ymweliad cyn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed ddydd Iau.
Drakeford yn 'disgwyl gwell ddealltwriaeth'
Fe wnaeth Mr Johnson wrthod gwneud cyfweliadau ar gamera gyda BBC Cymru ac ITV Cymru ar ei ymweliad â'r fferm yn ardal Casnewydd.
Dywedodd yn ystod ei ymweliad mai penderfyniad i'r Undeb Ewropeaidd yw a fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE heb gytundeb.
"Os na allen nhw gyfaddawdu, os ydyn nhw wir methu gwneud hynny, yna mae'n rhaid i ni baratoi am adael heb gytundeb," meddai.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi cael "trafodaethau sylweddol" â Mr Johnson ddydd Mawrth, ond bod "gwahaniaeth barn sylfaenol ar Brexit".
Ychwanegodd ei fod wedi pwysleisio "effaith drychinebus" Brexit heb gytundeb ar Gymru, ond na gafodd synnwyr am beth yw cynllun Mr Johnson ar gyfer sichrau cytundeb gyda'r UE.
"Rwy'n credu ei bod yn deg i ddisgwyl gwell ddealltwriaeth o'r manylion na'r hyn gafodd ei arddangos heddiw," meddai Mr Drakeford.
Dywedodd hefyd ei fod wedi galw arno i gynnal refferendwm arall ar y penderfyniad i adael yr UE.
Ychwanegodd Mr Drakeford ei fod wedi gosod ei weledigaeth ar "ailddyfeisio a chryfhau'r Undeb" a bod Mr Johnson wedi cydnabod yr angen am Undeb gref.
Cyn yr ymweliad, dywedodd Mr Johnson: "Byddaf wastad yn cefnogi ffermwyr gwych Prydain, ac wrth i ni adael yr UE mae angen i ni sicrhau y bydd Brexit yn gweithio iddyn nhw.
"Mae hynny'n golygu cael gwared â'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) ac arwyddo cytundebau masnach newydd. Bydd ein sector bwyd a ffermio anhygoel yn barod ac yn disgwyl i ni barhau i werthu mwy nid yn unig yma ond o gwmpas y byd.
"Unwaith y byddwn yn gadael yr UE ar 31 Hydref, bydd gennym ni gyfle hanesyddol i gyflwyno cynlluniau newydd i gefnogi ffermio - a byddwn yn sicrhau y bydd ffermwyr yn cael cytundeb gwell."
Ddydd Sul, dywedodd Michael Gove bod Llywodraeth y DU yn rhagdybio y bydd y wlad yn gadael yr UE heb i'r ddwy ochr daro bargen.
Er bod gweinidogion yn gobeithio cael cytundeb, mae gadael heb un yn "bosibilrwydd go iawn", meddai.
Mae amaeth, a beth fydd yn dod yn lle cymorthdaliadau ffermio PAC, wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
Yn ôl gweinidogion ym Mae Caerdydd, bydd y prif gynllun cymhorthdal i ffermwyr Cymru yn cael ei ddisodli ar ôl Brexit.
Mae ffermwyr Cymru yn derbyn cymorthdaliadau o tua £300m gan yr UE. Does dim sicrwydd eto faint o arian fydd ar gael i gefnogi amaethyddiaeth ar ôl Brexit.
Mae adroddiad gafodd ei gomisiynu gan gyrff tollau AHDB, Quality Meat Scotland a Hybu Cig Cymru wedi edrych ar effeithiau tariffau a rhwystrau eraill i fasnachu cig eidion a chig oen ar ôl Brexit.
Mae'n awgrymu y gallai allforion i Ewrop, sef y farchnad fwyaf o bell ffordd i gynhyrchwyr o Gymru, ostwng tua 92%.
Byddai hyn, yn ôl yr adroddiad, yn arwain at ostyngiad o 24% ym mhris cig oen ar adeg o'r flwyddyn pan fydd miloedd o ŵyn ar y farchnad bob dydd.
Yn y cyfamser mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi dweud y gallai sicrhau ffermwyr y bydd yr un faint o arian cymhorthdal ar gael iddyn nhw wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
'Marchnadoedd newydd'
Fe fydd y cynllun sy'n disodli'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn fater i'r llywodraethau datganoledig, ond llywodraeth y DU fydd yn gyfrifol am ei gyllido.
Dywedodd Mr Cairns y gallai ffermwyr "fod yn sicr y bydd yr un swm o arian ar gael er mwyn sicrhau ein bod yn amddiffyn y sector hwn.
"Mae hyn yn dangos ein bod ar ochr y sector amaeth - rydym yn cydnabod pwysigrwydd y sector yma."
Ychwanegodd fod cael cytundeb gyda'r UE yn "llawr gwell na gadael heb gytundeb".
Wrth gyfeirio at yr anhawster wrth geisio cytundeb gyda'r UE dywedodd nad oedd ansicrwydd yn yr economi "ers mis Mawrth yn helpu chwaith".
"Felly ni yn gweithio yn galed er mwyn cael pecyn wedi ei gytuno gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ond hefyd wrth ein bod yn wlad annibynnol yn edrych yn rhyngwladol tuag at marchnadoedd newydd fel China er enghraifft.... lle mae llawer o waith wedi ei wneud er mwyn i ni allu allforio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2019