Cadarnhad bod pwerdy glo olaf Cymru i gau yn 2020

  • Cyhoeddwyd
AberddawanFfynhonnell y llun, Christopher R Ware

Mae cynrychiolwyr undeb yn galw am drafodaethau brys wedi i gwmni RWE Generation gadarnhau y bydd pwerdy glo Aberddawan yn cau ddiwedd Mawrth nesaf.

Roedd disgwyl yn wreiddiol i'r safle ger Y Barri, sy'n cyflogi 170 o weithwyr, gau yn 2021.

Dywed y cwmni bod yna "bosibilrwydd bach" o symud staff i safleoedd eraill ond "bydd mwyafrif y bobl ar y safle yn cael eu diswyddo".

Ond mae amgylcheddwyr wedi croesawu'r cyhoeddiad gan ddweud bod canolbwyntio ar gynhyrchu ynni mwy cynaliadwy i osgoi argyfwng hinsawdd.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rheolau newydd sy'n gorfodi pob pwerdy glo i gau erbyn 2025.

Yn ôl RWE Generation, does dim cynlluniau ar gyfer safle Aberddawan B wedi iddo gau, "ond bydd yn rhaid diogelu'r safle".

'Ergyd galed'

Dywedodd swyddog rhanbarthol yr undeb Unite, Kelvin Mawer: "Rydym am ofyn am gyfarfod brys gyda rheolwyr RWE Generation er mwyn iddyn nhw egluro pam bod y safle'n cau yn gynt na'r disgwyl.

"Mae'r pwerdy yma wedi cyfrannu'n aruthrol at 'gymysgedd ynni'r DU'... bydd colli 170 o swyddi yn ergyd galed i'r gweithwyr, eu teuluoedd, ac yn fwy cyffredinol i economi de Cymru.

"Mae'r rhesymau sydd wedi eu rhoi dros gau yn rhai economaidd - prin y mae'r safle'n cynhyrchu yn y misoedd diwethaf, ond mae'r penderfyniad i gau wedi dod lawer cynt na'r disgwyl."

Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar: "Mae'r ysgrifen ar y mur i'r diwydiant glo - ni allwn ni barhau i losgi tanwydd ffosiledig yng nghanol argyfwng hinsawdd ac mae'n rhaid i ni stopio nawr.

"Gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddiwedd y llynedd na ddylid caniatáu cynlluniau glo newydd yng Nghymru, fe allwn ni ddweud o'r diwedd bod glo yn perthyn i'r gorffennol.

"A dylai cyrff cyhoeddus yng Nghymru sicrhau nad ydyn nhw'n buddsoddi yn y diwydiant ynni ffosiledig trwy gronfeydd pensiwn nag unrhyw fodd arall."