Ateb y Galw: Yr ysgrifenwraig Michelle Thomas
- Cyhoeddwyd
Yr ysgrifenwraig Michelle Thomas sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar ôl iddi gael ei henwebu gan Siân Harries.
Aeth blog gan Michelle yn feiral yn 2015 pan ysgrifennodd lythyr agored at ddyn oedd wedi ei galw yn 'rhy dew' i fod mewn perthynas gyda hi. Mae hi newydd gyhoeddi ei llyfr cyntaf - My Sh*t Therapist - am ei phrofiadau gyda salwch meddwl.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cuddio tu ôl i Mam tra oedd Nain a Taid yn canu 'penblwydd hapus' - dwi'n meddwl o'n i'n dair mlwydd oed.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Christian Slater yn Robin Hood Prince of Thieves. Dwi'n licio dyn mewn tights.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Nes i gael Marilyn Monroe Moment anffodus o flaen dreifiwr tacsi. Y peth gwaethaf oedd mai ffroc wen o'n i'n gwisgo, and o'dd gennai ddim nicyrs gwyn. O'dd gen y nghariad i ar y pryd pâr o drons Marvel o'dd yn wyn ar y tu mewn, felly nes i wisgo rheini efo'r tu mewn tu allan.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Pan welais i llyfr fi, My Sh*t Therapist and other mental health stories, mewn siop lyfrau am y tro cyntaf.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Chwerthin ar jôcs fy hun.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Llyn Tegid amser gwawr yn yr haf. Mae'r byd yn perthyn i'r pryfed a'r pysgod pryd hynny. Do's 'na'm heddwch debyg.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gweld Nick Cave yn Hammersmith yn 2013. 'Nath o ddal fy llaw a canu i mewn i fy lygaid i am Miley Cyrus yn arnofio mewn llyn. Hudol.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Merch Arwel Ambiwlans.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Dwi'n gwylio Priscilla Queen of the Desert bob noswyl blwyddyn newydd tra dwi'n neud make-up fi. Hoff lyfr fi (heddiw) yw Queenie gan Candice Carty-Williams. Mae hunangofiant Lily Allen yn ardderchog, hefyd - menyw gymhleth, hynod ddiddorol.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
'Nath Anti fi farw pan o'n i'n wyth oed. 'Swn i'n licio cal glas o win efo hi.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
'Swn i'n licio sgwennu sgript teledu. Dwi ddim yn ddigon hyderus i weithio allan plot ar ben fy hun eto, ond dwi'n dda efo deialog. Nes i gynnwys dau sgript fer yn y llyfr i ddangos sgils fi!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael y teulu efo'i gilydd, ransacio cwpwrdd grog gwyliau Mam, a chal parti masif.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Dwi ddim yn cŵl iawn. Un o fy hoff ganeuon i, yn gwbwl heb eironi, ydi Deeply Dippy gan Right Said Fred. Dwi'n licio'r cyrn.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Wwwfff, caled iawn. Cwrs cyntaf, efallai patè? Neu Bruschetta, efo tomatos aeddfed (dwi'n snobyddlyd am tomatos) a mozzarella. Neu falle burrata. Prif gwrs - stêc tiwna, tatws newydd, a salad (efo tomatos da). Neu stêc eidion rare. Neu mwy o burrata. Pwdin - Banoffee pie. Neu profiteroles. Gwin coch efo'r cwbwl, wedyn double espresso, wedyn cocktail Old Fashioned plîs.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Dwayne 'The Rock' Johnson.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Dyfrig Evans