Gwobr bensaernïol i hen farchnad
- Cyhoeddwyd
Hen farchnad yn Wrecsam sydd wedi ei gweddnewid yn safle i'r celfyddydau sydd wedi dod i'r brig yng ngwobr pensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Fe benderfynodd y beirniad ddyfarnu Y Fedal Aur i Featherstone Young o Lundain am eu dyluniad i drawsnewid Tŷ Pawb.
Mae'r adeilad yn ganolfan gelfyddydau a marchnad, ac mae hen loriau'r maes parcio gwreiddiol o'r 80au yn dal i gael eu defnyddio.
Ymhlith yr hyn sydd yno mae orielau celf, canolfan addysg a stondinau marchnad.
Roedd yn ddatblygiad gwerth £4.5m gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor Wrecsam a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Dywedodd y pensaer, Trevor Skempton fod Tŷ Pawb yn enghraifft o sut mae mynd i'r afael gyda'r ansicrwydd sy'n bodoli ynglŷn â dyfodol y stryd fawr a chanol trefi.
Mae'r rhai tu ôl i'r cynllun wedi gwneud hynny mewn "ffordd uniongyrchol a dychmygus, drwy ailgylchu ac ôl-ffitio strwythur canol tref o'r 1980au," meddai.
Ychwanegodd Mr Skempton eu bod wedi plesio gyda'r ffaith bod y penseiri wedi parchu'r adeilad oedd yn bodoli yn barod ac ychwanegu elfennau newydd.
"Mae gwireddu'r hyn sydd wedi'i alw'n ofod llaes, gan gyflwyno deunyddiau cynhesach, 'coreograffi' y gwasanaethau newydd, parch clir at rinweddau'r strwythur presennol, a'r modd cyffrous y mae graffeg a dyluniad dodrefn yn cyd-fynd, wedi arwain at bensaernïaeth integredig o ansawdd go iawn, gyda photensial cyffrous i dyfu a datblygu ymhellach."
Canolfan sy'n cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i bobl sydd yn byw gyda chanser sydd wedi ennill y Plac Teilyngdod - gwobr sydd yn cael ei rhoi i brosiectau llai ond o ansawdd dylunio uchel.
Penseiri Dow Jones, Llundain sydd tu ôl i ddyluniad Maggie's yng Nghaerdydd.
Mae'r beirniaid yn dweud fod y lleoliad yn gwneud i rywun feddwl mai canolfan dros dro yw hwn am ei fod drws nesaf i faes parcio ond mae'n "argyhoeddi'n gyfan gwbl".
"Mae'r adeilad lled-drionglog yn amgylchynu iard fynedfa fach ac mae un ochr yn wynebu llain o goetir ar ymyl y safle," meddai Wendy James - y beirniad arall sydd hefyd yn bensaer ei hun.
"Mae'r cyfeiriadau at bensaernïaeth werin yn cynnwys cwtsh a simnai fawr, a ffurf allanol sy'n adlewyrchu ffurfiau a lliwiau'r bryniau o amgylch."
Roedd pum adeilad arall hefyd ar y rhestr fer eleni:
Ysgol Trimsaran
Ysgol Pen Rhos, Llanelli
Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin
Y Gweithdy, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan
Tŷ annedd Silver How, Llanhenwg.
Bydd arddangosfa bensaernïaeth yn cynnwys lluniau o'r adeiladau i'w gweld yn y Lle Celf yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Llanrwst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2018