Degau'n dod i agoriad swyddogol Tŷ Pawb Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Cafodd canolfan gelfyddydol Tŷ Pawb, ar safle Marchnad y Bobl yng nghanol Wrecsam, ei hagor yn swyddogol ddydd Iau.
Yn yr agoriad, dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Wrecsam ei fod yn "un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous yn y dref ers blynyddoedd".
Daeth degau i'r digwyddiad, oedd yn cynnwys anerchiad hefyd gan yr artist Bedwyr Williams.
Dywedodd fod cyffro ymhlith artistiaid i gael gofod penodol i gelf gweledol yng ngogledd Cymru.
Mae'r datblygiad gwerth £4.5m, gafodd gefnogaeth ariannol yr awdurdod lleol a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn dod â stondinau marchnad ac arddangosfeydd at ei gilydd.
Ymhlith y stondinau mae gwerthwyr fferins a dillad plant ynghyd ag artistiaid a chrefftwyr.
Yn wreiddiol, roedd pryder ymysg stondinwyr eu bod yn gorfod symud eu busnesau ac roedd pryderon am gost y cynllun.
Fe gaeodd Siop y Siswrn - oedd yn gwerthu nwyddau Cymraeg - yn 2016, gan ddweud bod ansicrwydd am ddyfodol y farchnad yn ffactor.
Ond dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, dirprwy arweinydd Cyngor Wrecsam, ei fod yn hyderus bod cefnogaeth i'r fenter bellach.
"Dwi'n hapus iawn," meddai. "Mae pobl heddiw yn cefnogi'r prosiect.
"Yn gyntaf, roedd dipyn bach o opposition, ond rŵan mae pobl yn hapus iawn."
Cyn dadorchuddio plac fel rhan o'r agoriad, dywedodd fod Tŷ Pawb yn "un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous yn y dref ers blynyddoedd" a'i fod yn lle i fasnachwyr ddod ynghyd ag i "feithrin talent".
Yn ôl Bedwyr Williams, mae'n ddatblygiad pwysig i fyd celf Cymru.
"Mae'n rhoi lot o hyder i fi fod 'na gymuned o artistiaid yng ngogledd Cymru sy'n tyfu fwyfwy bob blwyddyn," meddai.
"Mae lot o orielau neu wagleoedd celf yn draddodiadol yng Nghymru yn vestibules neu gynteddau bach ar y ffordd i mewn i theatr.
"Ond be' sydd gennym ni yma [yn Nhŷ Pawb] ydy dwy oriel wedi eu hadeiladu'n bwrpasol i ddangos celf - ac mae hynna'n rhywbeth i'w ganmol."
Ymhlith yr atyniadau mae Wal Pawb, darn o gelf cyhoeddus gan yr artist Katie Cuddon, ac arddangosfa am ddyfodol y blaned dan ofal Angela Kingston.
Cafodd yr enw Tŷ Pawb ei ddewis gan aelodau o'r cyhoedd yn 2017.
Bydd dathliadau cyhoeddus yn cael eu cynnal ar 2 Ebrill, gan gynnwys gorymdaith drwy Wrecsam a thân gwyllt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017