Sinema yng Ngwynedd yn taclo unigrwydd dros y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
GwirfoddolwyrFfynhonnell y llun, Sinema'r Llusern Hud
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un o'r trefnwyr, Sara Waddington (dde), fod y digwyddiad yn gyfle i ddathlu "gwir ysbryd y Nadolig"

Bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal mewn sinema yng Ngwynedd ar Ddydd Nadolig er mwyn cynnig noddfa i'r rhai sydd yn teimlo'n unig dros yr Ŵyl.

Mae 'Dolig Diddan' wedi ei drefnu gan griw o wirfoddolwyr yn sinema'r Llusern Hud yn Nhywyn gyda chefnogaeth gan fusnesau'r ardal.

Fel rhan o'r digwyddiad bydd cyfle i bobl gymdeithasu drwy ganu carolau, gwylio ffilm Nadoligaidd, bwyta cinio Nadolig dau gwrs a digon o sgwrsio dros win a mins peis.

Dywedodd Sara Waddington, un o'r gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am drefnu'r diwrnod: "Mae'r Nadolig bellach yn amser lle mae straen, gwastraff a chost yn amlwg, a hoffwn ni gynnal digwyddiad sy'n dathlu gwir ysbryd y Nadolig - caredigrwydd, haelioni a chyfeillgarwch."

Yn wreiddiol dim ond dangos ffilm Nadoligaidd oedd y bwriad, ond o ganlyniad i "haelioni anhygoel" pobl leol, mae'r digwyddiad wedi tyfu a thyfu - gyda 70 o docynnau bellach wedi mynd.

"Bydd cogydd yn paratoi pryd o fwyd Nadoligaidd, bydd amrywiaeth o gerddorion, dawnswyr a difyrwyr yn perfformio yn ystod y dydd a bydd digonedd o bobl yn mynychu," meddai Ms Waddington.

"Dyma fydd y parti gorau o gwmpas!"

Ffynhonnell y llun, Sinema'r Llusern Hud
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sinema wedi trefnu sawl digwyddiad gyda'r bwriad o ddod â'r gymuned leol ynghyd

Cafwyd y syniad o gynnal digwyddiad o'r fath ar ôl i Ms Waddington glywed am ddigwyddiad tebyg yng Nghaerefrog - oedd wedi'i anelu at daclo unigrwydd ymysg pobl mewn oed.

"Mae pawb yn gwybod fod cyfnod y Nadolig yn anodd iawn i nifer o bobl, nid yn unig pobl hŷn neu bobl sydd ar ben eu hunain, ond i bobl o bob oed," meddai.

"Roedden ni'n meddwl y bydden ni'n gallu cynnig rhywle i bobl ddod ar Ddydd Nadolig i allu mwynhau ffilm a chwmni eraill."

'Ariannu digwyddiadau'

Nid dyma'r digwyddiad cyntaf i sinema'r Llusern Hud ei drefnu yn y gymuned. Y llynedd er enghraifft, fe drefnwyd digwyddiad calan gaeaf am ddim ar ôl i daith gerdded leol boblogaidd gael ei ganslo.

"Oherwydd ein bod ni wedi codi cymaint o arian ar gyfer y digwyddiad yma, bydd rhywfaint dros ben, a'r bwriad yw defnyddio'r arian yma i ariannu digwyddiadau rheolaidd yn y sinema," meddai Ms Waddington.

"Hoffwn roi cyfle i'r bobl sy'n mynychu 'Dolig Diddan' i gadw cysylltiad gyda rhai o'r bobl maen nhw yn eu cwrdd dros gyfnod y Nadolig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eileen Jones, un o'r gwirfoddolwyr, yn credu fod sinema'r Llusern Hud yn bwysig i'r dref ac i'r ardal

Un arall sydd yn gwirfoddoli i estyn llaw Ddydd Nadolig ydy Eileen Jones.

"Da ni'n edrych ymlaen at weld y lle yn agor," meddai.

"Meddwl am bobl sy'n unig yn y gymuned ydyn ni a bod 'na le iddyn nhw ddod i gael diod dros yr ŵyl, bwyd, ffilm, sgwrsio a mwynhau.

"Sgenai 'mond diolch i sinema'r Llusern Hud yma yn Nhywyn - sy'n lle pwysig yn y dref ag i'r ardal ehangach."

Yn ôl Elyan Stephens, sy'n mynychu'r digwyddiad, mae "caredigrwydd ei chymdogion wedi codi ei chalon".

"Mae dod â phobl leol at ei gilydd yn cael effaith cydlynol ar yr holl gymuned, ac mae gwneud hynny mewn awyrgylch cysurus, caredig, heb fod yn nawddoglyd, yn hyfryd ar gyfer y rhai sydd â ffrindiau a theuluoedd yn byw yn bell i ffwrdd."