Taro plant: Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesur newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cam arall tuag at wahardd taro plant yng Nghymru.
Mae mesur wedi ei gyhoeddi i ddileu "cosb resymol" fel amddiffyniad i rieni sy'n taro'u plant.
Os bydd yn cael ei basio gan y Cynulliad, fe fydd yn cael ei wneud yn gyfraith.
Yn ôl y dirprwy weinidog dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, mae'r mesur yn "neges glir nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru".
Petai'r mesur yn cael ei basio'n ddeddf, bydd plant yn cael yr un amddiffyniad rhag cosb gorfforol ag oedolion.
Bydd hynny'n golygu na all unrhyw riant neu berson sy'n gofalu am blant ddefnyddio "cosb resymol" fel amddiffyniad i gyhuddiad o ymosod ar neu daro plentyn.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y mesur yn adeiladu ar eu hymrwymiad i hawliau plant dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
'Trin ag urddas'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: "Rydyn ni'n anfon neges glir nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru.
"Nid yw'r hyn oedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol yn y gorffennol yn dderbyniol mwyach.
"Rhaid i'n plant ni deimlo eu bod yn ddiogel a'u bod yn cael eu trin ag urddas."
Mae'r cynigion ar gyfer y gwaharddiad ar daro plant yng Nghymru wedi hollti barn, yn ôl ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst y llynedd.
Roedd 50.3% o'r 1,738 o bobl a sefydliadau a ymatebodd o'r farn y byddai'r cynllun yn helpu i ddiogelu hawliau plant ond roedd 48.1% yn anghytuno.
Mae ymgyrchwyr yn dadlau, pe bai'n cael ei wneud yn gyfraith, y byddai rhieni cyffredin yn cael eu hystyried yn droseddwyr.
'Cam sylweddol'
Ond mae Llywodraeth Cymru yn gwadu hynny gan ddweud mai newid diwylliant cosbi'n gorfforol yw bwriad y mesur, yn hytrach nag erlyn rhieni.
Ychwanegodd Ms Morgan fod mwy na 50 o wledydd eisoes wedi ymateb i'r alwad i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol.
"Fel un o'r gwledydd mwyaf blaengar yn y byd o safbwynt hyrwyddo hawliau plant, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn deddfu i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru, gan hyrwyddo ymhellach hawliau plant.
"Wrth i'r gymuned ryngwladol nodi 30 mlynedd ers cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn eleni, mae'n briodol fod Cymru yn cymryd y cam sylweddol hwn i fynegi ymrwymiad ein gwlad i ddiogelu hawliau plant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2018
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2017