'Gall ymwelwyr gael eu herlyn' yn sgil deddf taro plant

  • Cyhoeddwyd
Croeso i GymruFfynhonnell y llun, Matt Cardy

Gall gwaharddiad ar daro plant arwain at erlyn ymwelwyr o Loegr sydd ar eu gwyliau yng Nghymru, yn ôl Aelod Cynulliad.

Roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn clywed tystiolaeth ar gynllun i ddileu "cosb resymol" fel amddiffyniad i rieni sy'n taro'u plant.

Mae rheol debyg yn cael ei thrafod yn Yr Alban, ond nid yn Lloegr, ac esboniodd Janet Finch-Saunders, AC Ceidwadol, y gall ansicrwydd gadw twristiaid i ffwrdd o Gymru.

Dywedodd yr AC Llafur, Julie Morgan y byddai'r llywodraeth yn "gwneud yr hyn fedran nhw" i godi ymwybyddiaeth os yw'r gyfraith yn newid.

Atal ymwelwyr?

Dywedodd Ms Finch-Saunders, AC Aberconwy, bod perygl i rieni o Loegr dorri cyfraith heb wybod oherwydd diffyg ymwybyddiaeth.

"Dwi ddim eisiau i bobl feddwl 'dwi ddim am fynd i Gymru gan nad ydw i'n ymwybodol o'r gyfraith, a mod i methu a gofalu am fy mhlentyn yn iawn'," meddai.

"Dydyn ni ddim eisiau adroddiadau o bobl yn dod ar wyliau i Landudno ac yn cael cnoc ar ddrws eu gwesty gan rywun sy'n eu cyhuddo o daro eu plant, a hwythau'n hollol anymwybodol o'r ddeddf."

Disgrifiad o’r llun,

Ofn Janet Finch-Saunders yw y byddai'r gwaharddiad yn atal ymwelwyr o Loegr rhag dod i Gymru ar wyliau

Wrth ymateb, dywedodd Ms Morgan, sy'n gyfrifol am y mesur, y byddai Llywodraeth Cymru yn "gwneud yr hyn fedran nhw" i godi ymwybyddiaeth.

Pwysleisiodd gan fod proses debyg mewn grym yn Yr Alban, mai ymwelwyr o Loegr fyddai'n llai cyfarwydd â'r newidiadau.

Yn ôl James Gillies o ymgyrch Be Reasonable, dim ond tair gwaith mae'r gyfraith i warchod rhieni wedi ei defnyddio yn y naw mlynedd ddiwethaf - i gyd yn Lloegr.

Gofynnodd Mr Gilles sawl rhiant fyddai'n cael "eu gwneud yn droseddwyr".

"Faint ohonyn nhw fydd gan rybuddion heddlu ar eu hymchwiliadau DBS, a fyddai o ganlyniad yn effeithio eu siawns o gael swydd?"

Mae ACau'n craffu ar y mesur, gyda gweinidogion yn gobeithio y caiff ei basio erbyn gwanwyn 2020.