Byw mewn tlodi: 'Y system wedi malu'
- Cyhoeddwyd
Sut beth yw hi i drio cael dau ben llinyn ynghyd pan ydych chi mewn gwaith ond yn byw ar incwm isel?
Dyna beth oedd testun sgwrs ar Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ar 1 Awst.
Siaradodd Dorothy Williams o Ddolwyddelan gyda Garry Owen am ei phrofiadau o geisio dygymod ar y swm bychan o arian sydd yn dod i mewn bob mis.
'Ofn y cnoc 'na ar y drws'
"Fedrwch chi byth gael dau ben llinyn ynghlwm â'i gilydd. Rydach chi bob amser yn rhedag i drio dal i fyny efo costau byw, efo'ch biliau a 'da chi'n byw mewn ofn - 'da chi'n ofn y cnoc 'na ar y drws," meddai Dorothy Williams.
"Be' sy'n drist am y sefyllfa ar hyn o bryd ydi bod 'na ffasiwn dlodi mewn gwaith. Pobl yn gweithio oriau hir - boed o'n 30 awr neu 35 awr... hyd yn oed os ydyn nhw'n gweithio 60 awr yr wythnos - dydy'r cyflog ddim yn ddigonol.
"Mae'r cyflogau yn ddisymud a chostau byw yn codi o flwyddyn i flwyddyn.
"Yn 2003, fe gafodd Llafur y syniad gwych o gael Working Families Tax Credit a mi o'dd hynny ar gyfer teuluoedd oedd yn byw ar incwm isel. Doedd o ddim yn arian mawr ond mi oedd o'n cadw'r blaidd oddi wrth y drws.
"Mae'r Llywodraeth sy' ganddon ni rŵan, ers naw mlynedd wedi gwasgu a gwasgu nes bo' nhw wedi penderfynu g'neud un budd-dâl, sy' i fod i amgylchynu'r holl fudd-daliadau 'ma ac eto, mae'r bobl sydd ar incwm isel yn ennill gormod i fod yn gymwys.
"Mae'r system credyd uniongyrchiol wedi ei sefydlu fel eich bod chi'n methu'n syth - mae'n system sydd ddim yn gweithio ac yn gadael pobl mewn tlodi, i wynebu digartrefedd. Mae'r system wedi torri, ac roedd o wedi torri cyn iddo fo ddod i rym. Roedden nhw'n gwybod be' oedden nhw'n ei 'neud - gwasgu'r tlawd mwy a mwy."
Colli budd-daliadau
Ers blwyddyn bellach, mae cyflog Dorothy wedi codi ychydig bach, felly nid yw hi bellach yn gymwys i dderbyn budd-daliadau ac mae hi, o ganlyniad, ar ei cholled. Un tro, dywedodd bailiff wrthi hyd yn oed y byddai'n well arni pe na bai'n gweithio o gwbl.
Mae ei phlant bellach wedi gadael cartref, felly gan ei bod hi'n byw ar ei phen ei hun, mae'r holl gyfrifoldeb ariannol ar Dorothy.
"Mae 42% o fy nghyflog i yn talu fy rhent i. Mae 20% yn talu mond am fy nghar i - dydi hynny ddim yn cynnwys y costau i'w redeg o. Wedi i chi dynnu rheina allan i gyd, a 'da chi'n trio rhoi 'chydig bach tuag at y biliau bach eraill, sgynnoch chi fawr o ddim ar ôl," meddai.
"Dwi'n lwcus os oes gen i ryw £60/£70 y mis ar ôl. Dwi ddim wedi prynu dilledyn ers bron i ddwy flynedd, dwi ddim wedi prynu pâr o sgidia' ers bron i dair, a dwi ddim wedi bod allan yn mwynhau fy hun ers tua tair blynedd."
'Ofn cyfaddef'
Mae Dorothy yn teimlo ei bod hi'n bwysig i fod yn agored am ei sefyllfa, gan nad yw pobl yn ddigon ymwybodol o'r broblem, ond ei bod yn cyfaddef fod yna 'stigma' ynglŷn â thlodi y dyddiau yma.
"Dydi cymdeithas ddim yn gwybod y lefel o dlodi mae rhywun yn ei ddiodda'. Mae nifer o bobl yn yr un sefyllfa â fi ofn cyfadda' ac ofn siarad am y matar, rhag ofn i rywun ddechra' sbïo yn groes arnyn nhw neu i ymdrin â nhw'n wahanol," meddai Dorothy.
"Does 'na ddim cywilydd yn y sefyllfa yma - y gwir amdani ydi fod y system wedi malu.
"Mae pobl yn deud 'rhaid i ti chwilio am waith arall, siŵr'. Ond 'da chi'n trio am waith, ac ambell i swydd, 'da chi'n trio yn erbyn 70 o bobl eraill - pa obaith sgynnoch chi? Gobaith mul mewn Grand National o gael cynnig y swydd.
"A dyna sy'n rhoi'r ofn yna. Mae o fel bod lot o gwmnïau yn byw milltiroedd i ffwrdd oddi wrth realiti. Dydyn nhw ddim yn cysidro'r toriadau - a maen nhw'n mynd yn bengalad a 'na'n nhw ddim derbyn a 'na'n nhw ddim trafod efo chi."
Iechyd meddwl yn dioddef
Mae Dorothy'n dweud bod yr holl boeni yn effeithio ar ei iechyd meddwl, ac mae hi'n anodd gwybod lle i droi, meddai.
"Dwi wedi bod yn berson cry' erioed, yn medru gwynebu fy mhroblemau, dim ofn taclo pethau. Ond dwi 'di sylwi dros y misoedd d'wytha, mae o wedi cael effaith tyngedfennol ar fy iechyd meddwl i. Dwi'n ofnus, pryderus, yn poeni - a does 'na'm byd fedra i 'neud am y peth.
"'Swn i'n ei ddisgrifio fo i chi fel cwch bach pysgota yn Swnt Aberdaron yn troi ac yn troi ac yn troi ac yn gw'bod yn iawn 'na yn y lle dwytha' dwi am fod ydi'r twll du ac yn methu dod allan ohono fo."
Hefyd o ddiddordeb: