Crocodeil chwedlonol ysgol gynradd yn dangos ei ddannedd

  • Cyhoeddwyd
Sgerbwd Ysgol BodringalltFfynhonnell y llun, Dr Neil Pike
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o bobl yr ardal yn cofio gweld sgerbwd mewn cwpwrdd arddangos yn yr ysgol

Mae athrawon a disgyblion ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf o'r presennol a'r gorffennol wedi cyffroi yn sgil darganfyddiad sy'n profi bod yna wirionedd i chwedl ynghlwm â'r safle.

Ers degawdau mae pobl wedi bod yn holi beth ddigwyddodd i sgerbwd crocodeil oedd yn arfer cael ei arddangos yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt, yn Ystrad, tua dechrau'r ganrif ddiwethaf.

Mae'r sgerbwd bellach wedi dod i'r fei pan gafodd llawr un o ddosbarthiadau'r ysgol ei godi yn ystod gwaith adnewyddu ddydd Mercher.

Dywedodd pennaeth yr ysgol, Dr Neil Pike bod y gweithwyr wedi cael "braw - doeddynt ddim yn disgwyl darganfod y fath beth!"

"Clywais sôn am grocodeil wedi claddu dan llawr yn yr ysgol rhwng y ddau ryfel byd gan rieni a staff yr ysgol," meddai.

"Hen chwedl oedd fy marn i a wnes i gymryd fawr o sylw tan fore dydd Iau pan es i'r ysgol i wirio'r gwaith adeiladu. Wedi gosod ar lawr y neuadd oedd y crocodeil!

Ffynhonnell y llun, Dr Neil Pike
Disgrifiad o’r llun,

Y sgerbwd a roddodd fraw i weithwyr adeiladu - a syndod i'r pennaeth wrth gyrraedd i weld sut roedd y gwaith adnewyddu yn mynd rhagddo

"Mae tipyn o sôn am hanes y crocodeil, milwr wedi dod â'r crocodeil yn ôl wedi rhyfel byd cyntaf a'i roi i'r ysgol fel curio.

"Yn ôl pob sôn cafodd ei arddangos am gyfnod cyn ei gladdu. Falle cawn wybod yr holl hanes nawr."

"Anhygoel'

Dywedodd cyn-bennaeth yr ysgol, Marian Roberts bod amseriad y darganfyddiad yn "anhygoel", gan fod yr ysgol yn dathlu carreg filltir arbennig eleni, sef 40 mlynedd ers newid yr ysgol i ysgol Gymraeg.

Mae Mrs Roberts, oedd yn bennaeth am bron i 20 mlynedd tan iddi ymddeol yn 2013, wedi byw yn Ystrad hyd ei hoes.

Cafodd ei haddysgu yn yr ysgol, ac roedd ei thad yn ddisgybl yno yn yr 1920au hwyr a 1930au cynnar.

Ffynhonnell y llun, Marian Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Marian Roberts yn ymwybodol o'r straeon am y crocodeil ers ei phlentyndod

"Roedd fy nhad wedi bod yn sôn am y crocodeil 'ma ers pan o'n i'n ferch fach," meddai.

"Pan es i yno yn 1961, oedd o'n gofyn wrtha'i lle roedd y crocodeil, ond yn amlwg roedd o wedi claddu dan y llawr cyn i mi gyrraedd.

"Pan o'n i'n brifathrawes wedyn, roedd pobol oedd yn galw i'r ysgol yn gofyn os oedd e dal yna - mae e'n amlwg wedi cael effaith ar bobol.

"Fe wnaeth y plant broject treftadaeth un tro a drïon ni ffeindio mas beth oedd wedi digwydd iddo.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y sgerbwd i'r fei dan un o ddosbarthiadau'r ysgol

"Oedd pawb yn siomedig bod ni heb gael yr atebion oni bai bod rhywun wedi teithio'r byd ac wedi rhoi crocodeil i'r ysgol yn anrheg.

"Roedd pobol wedi dweud wrtha'i bod o wedi cael ei gladdu o dan y llwyfan, ond doedd dim llwyfan erbyn ro'n i yn yr ysgol."

Ychwanegodd Mrs Roberts ei bod ar ddeall mai caiman yw'r sgerbwd - creadur sy'n perthyn i'r un teulu â'r crocodeil a'r aligator, ond sydd â phennau mwy byr a llydan, a dannedd hirach a mwy cul na rhai crocodeil.

"Mae pawb yn gyffrous ac eisiau gwybod nawr beth sy'n mynd i ddigwydd iddo fe."

Pan ofynnwyd i Dr Pike beth fydd yn digwydd nawr i'r crocodeil ei ateb oedd nad oedd yn siŵr, "... ei gladdu eto neu ei arddangos? Cawn weld."