Ymchwiliad bwrdd iechyd wedi i feddygfa gau'n ddirybudd
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i bryderon ynghylch meddygfa yn Sir Y Fflint a gaeodd yn ddirybudd dri mis yn ôl.
Cafodd llawer o gleifion eu gadael mewn ansicrwydd wedi i ganolfan feddygol Bromfield gau yn Yr Wyddgrug.
Daw'r ymchwiliad wedi i glaf gwyno ynghylch oedi dros ei gyfeirio am driniaeth.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau eu bod yn edrych i "bryderon clinigol" mewn cysylltiad â'r ganolfan.
Dyw swyddogion y bwrdd ddim yn ymhelaethu ar natur y pryderon, na'r rheswm dros fethu â chyfeirio'r claf am driniaeth gan fod y mater yn destun ymchwiliad gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).
Ond mae llythyr arall i'r un claf ym Mehefin yn amlygu achosion eraill lle na chafodd atgyfeiriadau a chofnodion eraill eu cwblhau ac mae'r achosion hynny'n cael eu hymchwilio.
Adolygu cofnodion
Yn y llythyr hwnnw, mae cyfarwyddwr meddygol y bwrdd yn y gogledd ddwyrain, Dr Gareth Bowdler, yn cydnabod bod yr angen i ail-gofrestru gyda meddygfa arall yn "annifyr a byddem yn gwneud ein gorau i sicrhau bod y newid mor rhwydd â phosib.
"Rydym nawr yn ysgrifennu atoch i roi gwybod bod camgymeriad gweinyddol wedi dod i'r amlwg, wrth drosglwyddo cleifion i feddygfeydd eraill, ac o ganlyniad mae atgyfeiriadau a chofnodion rhai ymgynghoriadau heb eu gwneud."
Ychwanegodd y llythyr bod y bwrdd yn mynd ati i adolygu'r cofnodion, ac mae'n bosib bydd angen cysylltu â rhai cleifion "lle rydym yn teimlo bod angen iddyn nhw gael eu gweld, neu i gael gwybodaeth lawn".
Mae'r bwrdd wedi sefydlu llinell gymorth arbennig ar gyfer cleifion sydd angen trafod unrhyw bryderon.
Doedd y bwrdd na'r GMC am wneud sylw pellach ynghylch yr ymchwiliad.