Carcharu dyn wnaeth ffoi wedi damwain a laddodd ei wraig

  • Cyhoeddwyd
Joseph BerryFfynhonnell y llun, Heddlu Cheshire
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Joseph Berry ar ffo wedi'r gwrthdrawiad

Mae dyn 39 oed o Wrecsam, a wnaeth ffoi ar ôl achosi gwrthdrawiad a laddodd ei wraig, wedi cael dedfryd o dair blynedd a hanner o garchar.

Cafodd Joseph Francis Berry ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caer ar ôl pledio'n euog i achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Bu farw Teresa Maguire, oedd yn 37 oed, yn Ysbyty Duges Caer wedi'r gwrthdrawiad ym mhentref Elton, yn Sir Gaer, ar 24 Tachwedd 2018.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn Y Goron fod Berry wedi gadael mam ei blant i farw, gan feddwl am ddim byd heb law "achub ei groen ei hun".

Meadow View yn EltonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn Meadow View ym mhentref Elton

Roedd y diffynnydd hefyd wedi pledio'n euog i yrru tra dan waharddiad, ac i yrru heb yswiriant.

Fe ddigwyddodd y ddamwain wedi i gar Mercedes Berry deithio ar ochr anghywir y ffordd ar ôl troi cornel yn ddiofal a tharo Range Rover.

Cyfaddefodd ei fod yn gyrru ar gyflymder o 40 mya, er ei fod yn gwybod bod yna gyfyngiad o 30 mya yn yr ardal dan sylw.

Yn syth wedi'r gwrthdrawiad, fe redodd o'r safle i gyfeiriad bwlch mewn ffens cae gan adael Ms Maguire ag anafiadau difrifol yn y car.

Cywilyddus, hunanol a diofal

Er gwaethaf apêl gan Heddlu Cheshire, fe lwyddodd i osgoi cael ei arestio am 142 o ddiwrnodau cyn mynd i'r heddlu ar 15 Ebrill 2019.

Dywedodd y Cwnstabl Liz Thompson, a ymchwiliodd i'r achos, bod yr hyn wnaeth Berry wedi'r gwrthdrawiad "yn du hwnt o gywilyddus... nid yn unig trwy adael safle gwrthdrawiad ond trwy adael ei wraig a mam eu pum plentyn yn sedd y teithiwr".

Ond yn ôl Ms Thompson mae pledio'n euog "wedi arbed teulu a ffrindiau ei wraig rhag gorfod goddef achos llys llawn".

Dywedodd Neil Colville, o Wasanaeth Erlyn y Goron fod ymddygiad Berry "yn ofnadwy o hunanol a diofal".

"Fe adawodd Teresa ar ben ei hun i farw. Y cyfan oedd ar ei feddwl oedd arbed ei groen ei hun. Nawr mae o yn y carchar ac mae ei blant heb eu mam a'u tad," meddai.

Cafodd Berry hefyd ei wahardd rhag gyrru am 11 mlynedd a chwe mis.