Cwpan y Byd i'r digartref bron ar ben yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cwpan y Byd i'r digartref ar fin dod i ben ddydd Sadwrn gyda'r gwledydd buddugol yn herio'i gilydd i'r tlysau.
Mae'r gystadleuaeth ble mae dros 500 o chwaraewyr, yn cynrychioli 48 o wledydd, wedi cael ei chynnal yng Nghaerdydd ers 27 Gorffennaf.
Mae'r gemau cynderfynol ar gyfer y dynion ar fin cael ei chwarae gyda Rwsia'n herio Chile yn yr haen gyntaf, Mexico yn erbyn Chile yn yr ail haen, De Affrica a'r Aifft yn y drydedd haen a Bosnia-Herzegovina yn erbyn Awstria yn y bedwaredd.
Yng ngemau'r merched bydd Romania yn erbyn Peru a Mecsico'n gobeithio curo Chile i gyrraedd y rownd derfynol yn yr ail a'r haen gyntaf, ac yn y drydedd a'r bedwaredd fe fydd Awstria yn erbyn Lloegr a Hwngari yn erbyn India.
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal am y 17eg tro a'r nod yw creu cyfleoedd i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ddigartrefedd.
Cafodd y cais llwyddiannus i ddenu'r twrnamaint i'r brif ddinas ei arwain gan yr actor Michael Sheen.
Yn ogystal â'r pêl-droed mae nifer o ddigwyddiadau ymylol wedi digwydd, gan gynnwys gigs ac orielau celf.
Bydd wyth tlws yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd y gystadleuaeth - chwech ar gyfer y dynion a dau yng nghystadlaethau'r merched.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2019