Eisteddfod yn dangos iaith fyw i griw teledu o Hawaii

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Aloha i'r Eisteddfod gan griw o Hawaii

Mae criw teledu o Hawaii wedi bod ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher er mwyn dysgu mwy am sut mae'r Gymraeg yn iaith fyw y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Dywedodd Keli'i Wilson, sy'n gyflwynydd i sianel Oiwi TV, mai'r nod oedd dangos i bobl yn eu gwlad nhw bod modd i ieithoedd lleiafrifol ffynnu.

Bu'r criw yn siarad ag Eisteddfotwyr ar y maes yn Llanrwst yn ystod y dydd, gan gynnwys cyfarfod y pedwar ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

"Mae pawb wedi bod mor gefnogol a chyffrous i'n cyfarfod ni, a chynnig helpu mewn unrhyw ffordd bosib," meddai Ms Wilson wrth BBC Cymru Fyw.

"Felly mae wedi bod yn brofiad gwych - mae pobl Cymru mor wych a chroesawgar."

'Agos at farw'

Mae gan yr iaith frodorol statws swyddogol yn Hawaii, ac yn perthyn o bell i ieithoedd Polynesaidd eraill sy'n cael eu siarad yn ynysoedd y Môr Tawel.

Ond fel talaith o'r Unol Daleithiau, mae'r ynysoedd yn wynebu rhai o'r un heriau a'r Gymraeg o ran cystadlu gyda phrif iaith y wladwriaeth, Saesneg.

Esboniodd Ms Wilson bod yr iaith wedi bod yn "agos at farw ar un cyfnod", cyn i raglen addysg adfer y sefyllfa a dechrau dysgu'r iaith i genhedlaeth newydd.

Dim ond ychydig filoedd sy'n siarad yr iaith o hyd, ond gyda mwyafrif y siaradwyr yn dod o'r genhedlaeth ifanc mae gobaith tuag at y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r criw teledu yn ffilmio ar stondin Shwmae Sumae ar faes yr Eisteddfod

"Dydy sgwrsio bob dydd yn iaith Hawaii ddim yn gyffredin hyd yn oed heddiw - fe allech chi fynd yna ar eich gwyliau a dim clywed yr un sgwrs yn yr iaith tra 'dych chi yno," meddai'r cyflwynydd.

"Beth hoffen ni yw gweld iaith Hawaii yn dychwelyd i fod yn iaith yr aelwyd ac iaith y teulu."

Mae'r criw eisoes wedi bod yn gweld beth yw sefyllfa ieithoedd lleiafrifoedd eraill yn Yr Ynys Las (Greenland) a Chatalunya, ac maen nhw'n gobeithio dysgu gwersi o'r gwledydd hynny a Chymru er mwyn cynnal eu hiaith eu hunain.

"Pwrpas ein rhaglen ddogfen ni yw dangos i bobl nôl adref bod 'na lefydd lle mae'r ieithoedd brodorol yn fyw, i edrych ar y pethau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru i gynyddu nifer y siaradwyr," meddai Keli'i Wilson.

"Rydyn ni wedi clywed bod gennych chi nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr, felly mae gennym ni ddiddordeb yn rhai o'ch esiamplau chi, ac adrodd yn ôl ar hynny yn Hawaii."