Ffrae dros ddyfodol safle hen ysbyty Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Hen ysbyty

Mae Maer Aberteifi eisiau trafodaeth gyhoeddus ynglŷn â dyfodol safle ysbyty'r dref, fydd yn cau ar ddiwedd y flwyddyn, ar ôl beirniadu'r syniad o godi tai fforddiadwy yno.

Fe fydd Canolfan Gofal Iechyd Integredig yn agor ar safle'r Bathhouse yn Aberteifi ar ôl buddsoddiad o £24m, a hynny wedi brwydr hir gan bobl yr ardal am ysbyty newydd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau ei fod eisoes yn trafod y posibilrwydd o godi tai fforddiadwy ar safle'r hen ysbyty gyda Chyngor Ceredigion, sydd ar lannau Afon Teifi.

Yn ôl Shan Williams, mae'r safle yn hollol anaddas ar gyfer tai fforddiadwy, am ei fod wedi ei wrthod ar gyfer y ganolfan gofal integredig yn sgil pryderon posib am lifogydd.

'Lle gwell i bobl wella?'

Mae'r Maer yn ffafrio parhau i gynnig gofal iechyd ar y safle - naill ai i gleifion diwedd oes neu i bobl oedrannus sydd angen gofal ar ôl gadael yr ysbyty.

"Dwi ffili deall i ddweud y gwir, bod nhw wedi dod lan â'r cynllun 'na ta beth achos wedd y safle ddim yn addas i'r Integrated Health Centre newydd achos wedd e'n floodplain.

"Shwd maen nhw'n gallu adeiladu tai ar yr un safle?

"Cafodd y safle ei roi i bobl y dref ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae pobl wedi bod yn cyfrannu i redeg yr hospital am ddegawdau. Mae'n 25 milltir i'r ysbyty agosaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Shan Williams yn credu y byddai'r safle yn ddelfrydol ar gyfer gofal diwedd oes, neu ofal i'r henoed

"Bydde fe'n safle da i bobl sydd ddim yn ddigon iach i fynd gatre' ond mae ishe gofal ysbyty arnyn nhw. Mae dyletswydd arnom ni gyd i edrych ar ôl yr henoed yn well na hyn.

"Does bosib sdim rhaid cael y safle 'ma [ar gyfer tai fforddiadwy].

"Lle gwell oes yna, wrth edrych mas ar yr olygfa, i bobl i wella? Fe allai pobl gynnig palliative care a gweithio gyda phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

"Mae angen y safle 'ma ar Aberteifi a gogledd Sir Benfro."

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r ganolfan iechyd newydd agor ddiwedd y flwyddyn

Yn ôl David Grace, Cadeirydd Cyfeillion Ysbyty Aberteifi, mae angen parchu barn pobl y dref wrth lunio cynllun ar gyfer dyfodol y safle.

"Beth bynnag sydd yn digwydd i'r adeilad, mae'n bwysig iawn fod pobl Aberteifi yn cael gweud beth maen nhw moyn."

Mae ganddo hefyd amheuaeth am y syniad o godi tai fforddiadwy ar safle'r hen ysbyty.

"Sut gallwch chi ddweud adeiladu tai yna achos bydd yr un risg yn bodoli i dai newydd."

Datblygu opsiynau

Mae Shan Williams yn dweud y bydd hi'n trefnu cyfarfod cyhoeddus ynglŷn â dyfodol y safle yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, aelod o gabinet Ceredigion, ei bod hi'n bwysig bod y safle "yn aros yn nwylo'r sector cyhoeddus", a bod hi'n bwysig asesu a ydy'r safle yn addas ar gyfer tai fforddiadwy.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, maen nhw'n cydweithio gyda Chyngor Ceredigion i ddatblygu opsiynau i waredu'r safle.