Gwrthwynebu cynllun i newid cloch goleudy ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Trwyn du
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gloch bresennol, sydd wedi bod yn cael ei defnyddio ers 1922, yn canu pob 30 eiliad

Mae trigolion sy'n byw ger goleudy ar Ynys Môn wedi mynegi pryder ynglŷn â chynlluniau i newid y gloch gyda "seiren neu gorn niwl".

Cafodd y ddyfais newydd ei dreialu yng Ngoleudy Trwyn Du ym Mhenmon yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Hayley Peace, sy'n cadw caffi gerllaw, ei fod yn "erchyll". "Mae'n sŵn uchel - roedd yn gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus," meddai.

Mae'r gloch bresennol, sydd wedi bod yn cael ei defnyddio ers 1922, yn canu pob 30 eiliad wrth rybuddio cychod ar ochr ddwyreiniol yr ynys.

Roedd adborth gan bobl Penmon yn dangos eu bod yn unfrydol eu bod eisiau cadw'r gloch bresennol.

'Testun trafod'

Dywedodd Alan Dickins o Sir Caer, sydd wedi bod yn ymweld â'r ardal ers dros 40 mlynedd, y byddai'r newid yn newid yr awyrgylch yn llwyr.

"Mae'r gloch yn destun trafod," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Goleudy Trwyn Du ym Mhenmon yn rhybuddio cychod ar ochr ddwyreiniol yr ynys

Mae'r goleudy, sydd wedi bod yn weithredol ers 1838, dan ofal Trinity House.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Mae'r gloch yn cael ei weithredu gan beirianwaith electroneg nad oes modd dibynnu arno fwyach.

"Unwaith y bydd wedi'i osod, bydd y ddyfais newydd, sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn mannau eraill, ond yn cael ei roi ymlaen yn ystod tywydd niwlog.

"Bydd Trinity House nawr yn casglu'r wybodaeth yn dilyn y cyfnod treialu."