Safon Uwch: Miloedd yn disgwyl am eu canlyniadau

- Cyhoeddwyd
Bydd miloedd o fyfyrwyr Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yn derbyn eu canlyniadau fore Iau, a hynny wedi cwymp yn y graddau uchaf yn 2024.
Llynedd fe gafodd y rhan fwyaf o fesurau ychwanegol i helpu disgyblion eu gollwng wedi cyfnod o newidiadau i adlewyrchu effaith Covid-19 ar addysg.
Yn 2024, 29.9% o ddisgyblion dderbyniodd graddau A* ac A, cwymp o oddeutu 5% o gymharu â 2023, ond roedd hynny i'w ddisgwyl yn ôl gweinidogion.
Bydd y canlyniadau yn cael eu rhannu gyda myfyrwyr am 08:00, ond mae'r trefniadau yn gallu amrywio rhwng ysgolion a cholegau.
Bydd canlyniadau y Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch a rhai cymwysterau galwedigethol gan gynnwys BTEC yn cael eu cyhoeddi hefyd.

Mae'r efeilliaid, Adrian a Łukasz Kolman, yn gobeithio derbyn canlyniadau a fydd yn sicrhau lle iddynt mewn prifysgol
Astudiodd yr efeilliaid Adrian a Łukasz, 18, yr un pynciau ar gyfer eu Safon Uwch a maen nhw wedi cael cynnig i astudio yr un cwrs ond mewn prifysgolion gwahanol.
Mae gan y brodyr o Gasnewydd yr un diddordebau ac fe wnaethon nhw adolygu gyda'i gilydd ar gyfer eu harholiadau.
Mae nhw'n disgwyl canlyniadau Safon Uwch ym Mathemateg, Mathemateg Bellach, Cyfrifiadureg a Ffiseg.
Roedd yr arholiadau yn gyfnod "heriol" yn ôl Adrian.
"Roedden ni'n medru astudio gyda'n gilydd ac felly roedd modd i ni helpu ein gilydd os nad oedd un ohonom ni'n deall rhywbeth."
Wrth ddisgwyl eu canlyniadau, dywedodd Łukasz ei fod yn teimlo'n "nerfus ond yn llawn cyffro hefyd".
Mae'r brodyr wedi derbyn cynnig i astudio ym mhrifysgolion Bryste a Chaerfaddon er mwyn astudio electroneg a pheirianneg electroneg.
"Rwy'n edrych ymlaen i weld pa raddau rydw i wedi cael ond dwi hefyd angen sicrhau fy mod i'n llwyddo i gyrraedd y graddau sydd eu hangen er mwyn mynd i'r brifysgol," ychwanegodd Łukasz.
Fel arfer mae disgyblion yn cael gwybod os ydyn nhw wedi llwyddo i gael lle mewn prifysgol erbyn 08:00.
'Canlyniadau yn debyg i'r rhai cyn Covid'
Yn 2020 a 2021 cafodd arholiadau eu gohirio a chafodd y graddau eu gosod gan athrawon.
Yn 2022 ac eto yn 2023, fe dderbyniodd myfyrwyr wybodaeth ynglŷn a chynnwys eu papurau arholiadau o flaen llaw.
Daeth y cymorth ychwanegol i ben yn 2024, ond fe benderfynodd Cymwysterau Cymru barhau gyda "rhwyd ddiogelwch" rhag ofn bod perfformiad myfyrwyr mewn rhai pynciau yn cwympo'n is na'r hyn oedd i weld cyn y pandemig.
Eleni, nid oes "rhwyd ddiogelwch" a mae'n debygol y bydd ffiniau graddau mewn rhai pynciau yn uwch.
Dywedodd y corff sy'n gwarchod safonau cymwysterau yng Nghymru y "dylai'r canlyniadau ar y cyfan fod yn debyg i'r canlyniadau a welwyd cyn y pandemig yn y rhan fwyaf o bynciau".

Bod yn ymwybodol o'r holl opsiynau sy'n agored i chi yw'r cam cyntaf yn ôl y cynghorydd gyrfa, Catrin Owen
Mae'r nifer fwyaf erioed o fyfyrwyr 18 oed yn debygol o fynd i'r brifysgol o'u dewis cyntaf eleni, hyd yn oed os ydyn nhw'n derbyn canlyniadau sydd ychydig yn is na'r hyn sy'n ofynnol, yn ôl pennaeth UCAS.
Dywedodd Dr Jo Saxton bod prifysgolion eisiau cofrestru myfyrwyr o'r Deyrnas Unedig oherwydd yr "ansicrwydd" ynghylch niferoedd myfyrwyr o dramor.
Mae'r broses glirio hefyd yn opsiwn i bobl ifanc na sy'n llwyddo i gael y graddau sydd eu hangen neu i'r rhai sy'n newid eu meddwl ynglŷn a pha bynciau maen nhw eisiau astudio yn y brifysgol.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf UCAS, 32.5% o bobl ifanc 18 oed o Gymru oedd wedi gwneud cais i'r brifysgol erbyn diwedd mis Mehefin, o gymharu â 41.2% ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae Beau wedi dysgu nifer o sgiliau weldio yn ystod ei brentisiaeth gyda chwmni peirianneg
I'r bobl ifanc sydd yn ansicr ynglŷn â beth i wneud nesaf ar ôl derbyn eu canlyniadau, mae cyngor ar gael gan Gyrfa Cymru.
"Mae pawb yn wahanol a mae gan bawb opsiynau gwahanol sy'n siwtio nhw orau.
"Mae'r brifysgol dal yn opsiwn a weithiau yr opsiwn gorau i bobl ifanc ond rydyn ni yn gweld mwy o opsiynau ar gael fel prentisiaethau neu efallai bo chi eisiau mynd yn syth i'r gwaith.
"I wybod am yr holl opsiynau, dewch i siarad gyda chynghorydd gyrfa a fedrwn i edrych ar bob dim hefo chi.
"Dydych chi ddim ar eich pen eich hun," meddai'r cynghorydd gyrfa, Catrin Owen.
- Cyhoeddwyd15 Awst 2024
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Fe gychwynnodd Beau Tattersall, 19, ei brentisiaeth gyda chwmni peirianneg ar Lannau Dyfrdwy "heb unrhyw brofiad o gwbl".
"'Nes i ddwy flynedd yn y coleg yn Sir Benfro ond fe wnes i benderfynnu fy mod i eisiau ennill arian tra'n dysgu ar yr un pryd felly dyna pam wnes i ddewis prentisiaeth," meddai.
Dywedodd prentis arall, Laurence Coleman, 20, ei fod wedi cael ychydig o brofiadau "heriol" yn ystod ei yrfa byr hyd yma, ond ei fod yn mwynhau ei brofiad fel prentis.
"Dim dyma oedd fy opsiwn cyntaf ar ôl gadael yr ysgol, ond yn y pen draw fe benderfynais i wneud cais i'r coleg. Mae'n rhaid bod yn agored i gyfleoedd gwahanol," ychwanegodd.