Arestio dyn 18 oed ar amheuaeth o lofruddio yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn wedi ymosodiad yn Wrecsam.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Stryd y Coleg yng nghanol y dref toc wedi 01:30 fore Sul.
Fe gafodd dyn lleol 30 oed ei ganfod yn anymwybodol a'i gludo i ysbyty yn Stoke, ble bu farw'n ddiweddarach.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Gary Kelly nad yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ond bod eu hymchwiliad yn parhau.
Ychwanegodd eu bod yn parhau i apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â'r llu trwy ffonio 101.