Prynu wal Cofiwch Dryweryn er mwyn i elusen ei gwarchod
- Cyhoeddwyd
Mae rhaglen deledu sy'n cael ei darlledu ar S4C nos Iau yn datgelu bod wal 'Cofiwch Dryweryn' wedi cael ei phrynu gan ddynes fusnes leol.
Dywed y perchennog newydd, Dilys Davies ei bod am drosglwyddo'r murlun eiconig ger Llanrhystud i ofal elusen er mwyn sicrhau ei bod "yn hollol saff am byth".
Fe gysylltodd ag AC Ceredigion a Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, yn holi ynghylch y posibilrwydd o brynu'r wal ar ôl cael ei digalonni wedi i'r wal gael ei difrodi sawl tro yn gynharach eleni.
Trwy gyd-ddigwyddiad roedd y perchennog blaenorol hefyd wedi cysylltu ag Elin Jones tua'r un pryd i drafod diogelu'r wal, ac fe drefnwyd cyfarfod a daeth y ddwy ochr i gytundeb.
Dywedodd Dilys Davies iddi ystyried "beth y gallwn i ei wneud" oherwydd "roeddwn i, ynghyd â llawer o bobl eraill, wedi fy mrifo pan ddifrodwyd wal Cofiwch Dryweryn ddwywaith yn gynharach eleni.
"Yn sicr, ni allwn redeg i fyny i Lanrhystud yn hwyr yn y nos, dringo dros ffensys ac ail-baentio'r wal, felly cysylltais gydag Elin Jones i ofyn sut y gallwn i helpu."
'Neges o barch a rhyddid'
Dywedodd Elin Jones: "Mi drefnais i bawb ohonom gwrdd o flaen wal Tryweryn, ac o fewn 10 munud roedd y ffermwr a Dilys wedi cytuno ar bris.
"Mae fy niolch yn fawr i'r ffermwyr a ofalodd am y wal am hanner can mlynedd cyn ei throsglwyddo i Dilys Davies a fydd nawr yn ei diogelu i'r dyfodol.
"Neges yw wal Tryweryn i'n sbarduno i fynnu parch a rhyddid i'n gwlad."
Bydd Dilys Davies yn trosglwyddo'r wal i ofal Tro'r Trai, "elusen sy'n hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant Cymreig".
Mae'r cam, meddai, yn golygu "y bydd dyfodol cadarn a diogel i'r wal, a bydd y gofeb yn hollol saff am byth o fewn yr elusen".
"O ran dyfodol yr wal, 'wi ddim moyn gwneud y penderfyniad yn bersonol, gan bod sawl ffordd o'i gwarchod.
"Gallwch ddodi ffens rownd e, ond ar y llaw arall, mae rhywbeth yn neis am biti street art, a bod e'n cael ei ail wneud ar ôl i [y diweddar Meic Stephens] wneud yr un gwreiddiol.
"Hoffwn feddwl, er fy mod i wedi prynu'r wal, y bydd pob un ohonom yn berchen arni."
Mae hanes y pryniant yn rhan o'r rhaglen Huw Stephens: Cofiwch Dryweryn - golwg bersonol y cyflwynydd radio ar y neges a gafodd ei phaentio yn wreiddiol yn y 1960au gan ei dad.
Dywedodd: "Rydyn ni fel teulu yn falch iawn fod y wal yn cael ei rhoi i ddwylo elusen - diolch i Dilys - i'w gwarchod, fel bod yr hyn ddigwyddodd yn Nhryweryn ddim yn cael ei anghofio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019