Gwobr Goffa Daniel Owen i Guto Dafydd
- Cyhoeddwyd
Guto Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.
Erbyn hyn, mae Guto wedi hen arfer â sefyll mewn seremonïau Eisteddfodol. Enillodd y Goron ddydd Llun, ynghyd â Choron Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn 2014 a Gwobr Goffa Daniel Owen ddwy flynedd yn ddiweddarch yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy.
Tasg yr wyth a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Y beirniaid oedd Haf Llewelyn, Dyfed Edwards a Llwyd Owen, ac wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd Haf Llewelyn: "Un yn unig oedd yn y ras, ac roedd y tri ohonom yn hollol gytûn ar hynny - Carafanio - Arglwydd Diddymdra."
Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen, yn rhoddedig gan Ross a Susan Morgan, Llanrwst, a £5,000, (£3,500 er cof am Olwen Mai Williams, Foel, Cwm Penmachno gan ei theulu, £1,000 Gwasg Carreg Gwalch, a £500 gan Ymddiriedolaeth D Tecwyn Lloyd).
Rhyddhad y beirniaid
Doedd y gystadleuaeth ddim yn un gref iawn eleni, yn ôl y beirniaid, ac roedd pryder am gyfnod na fyddai teilyngdod am y wobr yn Llanrwst.
Dywedodd Haf Llewelyn: "Wedi profi teimladau cymysg wrth fynd trwy'r saith ymgais flaenorol, roedden ni'n eithaf pryderus, gan nad oedden ni'n awyddus i'ch amddifadu o enillydd. Ond dyna droi at dudalen gyntaf 'Carafanio', a daeth ton o ryddhad droson ni.
"Nid mewn cae ar wahân y mae'r awdur hwn, ond yn hytrach ar gyfandir."
"Hanes teulu yn mynd ar wyliau carafanio sydd yma, does yna ddim stori fawr i'w dweud, na digwyddiadau ysgytwol, does yna 'run gangster na ditectif. A dyna fawredd y nofel, stori am fyw ydi hi - sylwadau craff am y natur ddynol, am ddyheadau a disgwyliadau, ac am ein stad fydol, fregus.
"Mae Carafanio yn nofel onest, yn glyfar, yn ddeifiol - weithiau'n hiraethus, ac yn ei chwmni, cefais blyciau o chwerthin yn uchel, o nodio a phorthi, o dristau weithiau, ac anobeithio, ond yn ei chwmni cefais brofi rhyddiaith ar ei orau. Llongyfarchiadau calonog felly a diolch i'r Arglwydd hwn am ein hachub rhag y diddymdra."
Yn dilyn y seremoni, dywedodd Guto Dafydd wrth BBC Cymru Fyw: "Roedd hi'n seremoni hyfryd, a dwi'n falch o gael beirniadaeth eitha' ffafriol.
"Dwi jyst yn falch eu bod nhw 'di cael blas ar y nofel, a dwi'n gobeithio y bydd pobl eraill yn cael yr un blas arni."
"Does 'na ddim byd sy'n symud y ddaear yn ystod y nofel… teulu bach yn mwynhau eu hunain, a'r tad yn myfyrio ar ei fywyd.
"Mae 'na bethau tebyg [i fywyd ei deulu ei hun], ond mae 'na bethau'n wahanol hefyd. Dwi'n cymryd ysbrydoliaeth o fywyd fy hun, ond dydy o ddim yn llwyr seiliedig."
Pan ofynwyd iddo, Welwn ni chi eto cyn diwedd yr wythnos? fe atebodd: "Na, dim mwy!"
Cefndir cyfarwydd
Daw Guto'n wreiddiol o Drefor, ac mae'n byw bellach ym Mhwllheli gyda'i wraig, Lisa, a'r plant, Casi a Nedw.
Bu'n cystadlu'n frwd mewn eisteddfodau bach a mawr ers blynyddoedd. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2013, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014, a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2016. Ysgrifennodd y geiriau ar gyfer A Oes Heddwch, cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol 2017.
Mae wedi darllen ei waith mewn degau o festrïoedd, tafarndai, llyfrgelloedd, ysgolion a neuaddau, a thrafod llenyddiaeth yn aml mewn amryw gyhoeddiadau ac ar y teledu, y radio a'r we. Cyhoeddodd nifer o lyfrau, gan gynnwys cyfrol o farddoniaeth (Ni Bia'r Awyr) a dwy nofel (Stad ac Ymbelydredd, a enillodd Wobr Barn y Bobl, Llyfr y Flwyddyn 2017).
Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Mae'n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg. Ef yw trysorydd Eisteddfod Gadeiriol y Ffôr, ac mae'n mwynhau rhedeg, mynd am dro, a charafanio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2019
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019