Ymgyrch i leihau llygredd amaethyddol i wella safon y dŵr

  • Cyhoeddwyd
AfonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwastraff yw un o'r achosion mwyaf cyffredin o lygredd mewn afonydd

Mae ymgyrch newydd wedi dechrau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol yng Nghymru.

Roedd 192 o achosion llygredd amaethyddol y llynedd, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru - y nifer fwyaf ers 2001.

Yn ôl CNC, mae'n flaenoriaeth i leihau'r lefelau llygredd er mwyn gwella safon y dŵr.

Dywedodd llefarydd ar ran CNC mai "nifer bach o ffermwyr unigol sy'n diystyru'r rheolau ac yn ymddwyn yn anghyfrifol ac yn annerbyniol".

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn 33 o leoliadau dros y misoedd nesaf er mwyn codi ymwybyddiaeth ar sut i waredu llygredd amaethyddol.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyflwyno rheoliadau llymach i ffermwyr ynglŷn â storio a gwasgaru slyri a gwrtaith o fis Ionawr ymlaen.

Ym mis Tachwedd y llynedd, fe ddywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, bod maint y llygredd amaethyddol yn afonydd Cymru'n "destun embaras", gan roi'r bai ar arferion ffermio gwael.

'Budd sylweddol'

Mae Cyswllt Ffermio yn cydlynu ymgyrch Lleihau Llygredd Amaethyddol ar ran is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar lygredd amaethyddol - corff sy'n cynnwys CNC, Llywodraeth Cymru, Undebau Ffermio ac eraill.

"Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar gefnogi ffermwyr i weithredu i leihau llygredd drwy wella rheolaeth tail, slyri a phridd a lleihau'r defnydd o gemegau megis plaladdwyr," meddai Sara Jenkins, Rheolwr Datblygu Menter a Busnes y fenter.

"Buaswn yn annog pob ffermwr yng Nghymru i ystyried eu heffaith bosibl ar yr amgylchedd a thrafod eu gofynion unigol gyda'u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol, fydd yn gallu eu cyfeirio at y cymorth mwyaf priodol.

"Bydd manteisio ar y gwasanaethau hyn yn dod â budd sylweddol i fusnesau fferm a'r gymuned ehangach a'r economi sy'n dibynnu ar amgylchedd dŵr iach."