Rhiannon Ifans yn cipio Medal Ryddiaith Eisteddfod 2019

  • Cyhoeddwyd
rhiannon ifans

Rhiannon Ifans yw enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Daeth i'r brig o blith y 18 o ymgeiswyr, ond bu trafod hir ymysg y beirniaid cyn cytuno mai 'Raphael' fyddai'n derbyn y Fedal.

Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Cylchoedd'. Y beirniaid oedd Mererid Hopwood, Aled Islwyn ac Alun Cob.

Wedi'r seremoni, dywedodd Rhiannon Ifans: "Roedd o'n anrhydedd mawr - ddaru fi fwynhau o, ac ro'n i wrth fy modd… roedd [y seremoni] yn urddasol iawn, ond yn gartrefol iawn hefyd."

Ychwanegodd ei bod yn "hynod o awyddus i ddangos diwylliant Ewrop".

"Mae gan yr Almaen wleidyddiaeth fawr… ond mae ganddi hefyd ddiwylliant mawr, ac yn anffodus 'dan ni'n mynd i gau'n hunain oddi wrth rhai o'r pethau yma os 'da ni'n mynd i gyfeiriad penodol."

Wrth drafod neges y nofel a'r cymeriad Ingrid sy'n araf colli ei meddwl: "Neges fawr y nofel falle ydy a ydy ein cymunedau ni, a ydy'n teuluoedd ni'n benodol, yn medru codi i'r her yma o edrych ar ôl pobl sy'n fregus… mae'n rhaid i ni edrych ar eu holau wrth gwrs."

mererid hopwood
Disgrifiad o’r llun,

Mererid Hopwood oedd yn traddodi'r feirniadaeth

Wrth draddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan ar ran ei chyd-feirniaid, dywedodd Mererid Hopwood bod "y cyfrolau'n amrywiol" a hefyd "chwaeth y beirniaid".

"Er i eira Ionawr a Chwefror a helbulon moduro Mawrth wneud eu gorau i'n hatal ni rhag cyfarfod... roedden ni'n benderfynol o roi pob chwarae teg i'r awduron, a dod at ein gilydd i geisio deall pam oedd pwy yn meddwl beth."

Beirniaid yn unfrydol

Mae'n amlwg bod saith cyfrol wedi mynd â bryd y tri beirniad, ond ar ôl sôn am chwech ohonynt, dywed Mererid fod "Teilyngdod - ie, ond dydy hynny'n werth dim heb gytundeb".

Cytunodd y tri yn y diwedd ar "nofel grefftus, raenus, wreiddiol Raphael dan y teitl 'Ingrid'".

"Lleolir y nofel yn Stuttgart, Yr Almaen, ac oddi yno cawn hanes Ingrid, menyw llawn bywyd sy'n araf golli ei meddwl a'i chof.

"Adroddir ei hanes o'i safbwynt hi ei hunan, ei gŵr, ei mab a'i merch yng nghyfraith, a thrwy'r cwbl, llithra'r dweud yn gelfydd i lais traethydd annibynadwy gan ein hysgwyd i gwestiynu'r naratif heb beri i ni golli'r trywydd yn llwyr chwaith.

"Prin iawn yw'r nofelau Cymraeg sy'n dod â diwylliant gwlad arall yn fyw, ond yma mae'r Gymraeg yn rhoi ei llais yn gwbl naturiol i fyd Yr Almaen."

"Wedi darlleniad cyntaf y deunaw ymgais roedd 'Ingrid' gan Raphael yn y dosbarth cyntaf gan y tri ohonom.

"Wedi darlleniadau pellach roeddem yn unfrydol mai hon fyddai'n derbyn y Fedal eleni.

"Er cystal safon y gweithiau eraill, braf iawn yw gallu dweud ein bod fel triawd yn unfrydol ynghylch teilyngdod 'Ingrid' gan Raphael. Llongyfarchiadau mawr! Raphael piau'r Fedal."

Enillydd o Fôn

Cafodd Rhiannon Ifans ei magu ar fferm Carreg Wian ym mhlwyf Llanidan, Ynys Môn, a'i haddysgu yn Ysgol Gynradd Gaerwen ac Ysgol Gyfun Llangefni.

Mae'n ddiolchgar iawn i John Parry, Falmai Rees, Margaret Fisher a Gerald Morgan am ddangos iddi gyfaredd llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg am y tro cyntaf.

Rhiannon Ifans ar y llwyfan

Yna treuliodd sawl blwyddyn yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn astudio iaith a llenyddiaeth Gymraeg, gan werthfawrogi dysg a deallusrwydd eithriadol Geraint Gruffydd a gallu creadigol anghyffredin Bobi Jones.

Erbyn hyn mae Rhiannon Ifans yn arbenigo ym meysydd astudiaethau gwerin a llenyddiaeth ganoloesol.

Yn 1980 cyhoeddodd gyda'i gŵr, Dafydd, ddiweddariad o chwedlau'r Mabinogion; yn gynharach eleni cyhoeddodd Red Hearts and Roses? Welsh Valentine Songs and Poems.

Llawenydd ei bywyd oedd cael magu tri mab, Gwyddno, Seiriol ac Einion, ac wrth wneud hynny bu'n ysgrifennu cyfrolau i blant ac yn golygu'n llawrydd pan oedd yr hwyl yn taro.

Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2000 am ei chyfrol Chwedlau o'r Gwledydd Celtaidd ac am yr eildro yn 2003 am ei chyfrol Dewi Sant.

Ar ôl i'r plant dyfu'n hŷn, dychwelodd i fyd y brifysgol gan weithio'n gyntaf ym maes Beirdd y Tywysogion ac yna ym maes Beirdd yr Uchelwyr. Wedi hynny treuliodd 12 mlynedd hapus yn Gymrawd Tucker ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae'n byw ers blynyddoedd lawer ym Mhenrhyn-coch yn ardal Aberystwyth, ac mae'n teithio'n rheolaidd i Gaerdydd i warchod ei hŵyr Trystan a'i hwyres Greta Mair, ac i'r Almaen pan mae amser yn caniatáu.