Ymateb cymysg i fathodyn newydd pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae bathodyn newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi denu beirniadaeth ar ôl i'r geiriau 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' gael eu tynnu oddi arno.
Bydd y geiriau Cymraeg bellach yn ymddangos ar gefn y crys, yn hytrach na fel rhan o'r arfbais.
Mae disgwyl i'r bathodyn newydd ymddangos ar y crysau ym mis Tachwedd pan fydd y gymdeithas yn lansio cit newydd i'r timau cenedlaethol.
Mewn ymateb ar y gwefannau cymdeithasol, mae rhai cefnogwyr yn canmol y ddelwedd newydd, ond yn mynnu y dylai'r geiriau Cymraeg fod yn rhan ohono o hyd.
Ar Twitter, dywedodd y colofnydd pêl-droed a'r blogiwr, Phil Stead ei fod yn ceisio peidio ymateb yn fyrbwyll "...ond mae'n siom colli'r Gorau Chwarae Cyd Chwarae o'r bathodyn".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar Facebook, fe ofynnodd Raynor Lewis: "Pam ydan ni wedi colli'r motto? Penderfyniad ofnadwy. A pam ydan ni wedi newid ein bathodyn eto p'run bynnag?"
Dywedodd Mark Davies ei fod yn "newid dychrynllyd". "Roedd yr 11 cennin Pedr ar yr [hen] fathodyn yn dangos undod a rŵan maen nhw wedi mynd," meddai.
"Logo wedi'i symleiddio ar gyfer brandio ar y gwefannau cymdeithasol."
Yn siarad o'r Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Owain Young, perchennog stondin ddillad Shwl Di Mwl: "Sai'n gallu gweud bo' fi'n lico fel lot. Ro'n i'n lico'r hen hen un, ac wedyn daethon nhw â'r un newydd [yn 2010] - o'n i ddim yn lico hwnna ar y pryd, ond fi'n lico fe nawr.
"A nawr sai'n lico hwn - felly falle mewn 10 mlynedd byddai'n lico hwn, ond sai'n meddwl 'ny!
"Mae dyn yn lico dangos y bathodyn pan mae'n cerdded ambyti'r lle, yn dweud 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' - mae'n galondid, ond dyw e ddim rhagor."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ond mae rhai yn hoffi'r dyluniad newydd.
Dywedodd Owain Bright: "Yr ail newid mewn saith mlynedd, mae'n ymddangos yn hollol ddibwrpas. Wedi dweud hynny, dwi'n eitha hoff ohono."
Tra bod Gwyn Williams yn credu bod gan eu cyfoedion yn y byd rygbi rhywbeth i'w ddysgu: "WRU cymerwch sylw. Arwydd Cymreig go iawn. Diolch."
Dywedodd llefarydd ar ran CBD Cymru: "Gyda chyfrifoldebau yn amrywio o'r timau cenedlaethol i'r gêm ddomestig, llywodraethant i ddatblygiad pêl-droed - mae pob un rhan yn bwysig.
"Dyma pam fod brand wedi cael ei ddatblygu sy'n adlewyrchu a dathlu hyn, gan ddarparu system unedig i'w ddefnyddio ledled CBDC sydd hefyd yn rhoi hunaniaeth i bob un adran - un brand Cymreig, modern.
"Yn y broses o ailddatblygu ein bathodyn, mae rhai elfennau pwysig wedi cael eu helaethu mewn mannau eraill.
"Bydd arwyddair y timau cenedlaethol, 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae' nawr yn cael ei bwytho o dan goler y crys cenedlaethol.
"Yno bydd y cennin pedr hefyd, gan ategu at y neges - mewn undod mae nerth."