Llywydd y Brifwyl: 'Peidiwch â bod ofn siarad Cymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Dylan Jones

Mae Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn galw ar bobl i beidio â bod ofn siarad Cymraeg am eu bod yn poeni y bydd eraill yn beirniadu safon eu hiaith.

Yn ei araith ar lwyfan y Brifwyl ddydd Sadwrn, dywedodd y newyddiadurwr a chyflwynydd rhaglen Post Cyntaf, Dylan Jones bod diffyg hyder yn gwneud i bobl deimlo bod eu Cymraeg yn rhy wael i gael ei glywed mewn rhaglenni radio a theledu.

"Cyfrwng i gyfathrebu yn naturiol ydi iaith nid prawf gramadegol," meddai. "Ei siarad hi sy'n bwysig.

Dywedodd hefyd bod hi cyn bwysiced ag erioed bod rhaglenni newyddion fel Post Cyntaf yn parhau i roi lle i bob math o safbwyntiau, "yn enwedig y dyddia' yma lle mae yna gymaint o bolareiddio gwleidyddol yn digwydd".

Gan fynegi ei bryder ynghylch diffyg hyder rhai yn safon eu hiaith, dywedodd: "Rhywbeth sydd yn fy nhristau i yn fy ngwaith ar adegau ydi pobl sy'n deud nad ydi eu Cymraeg nhw yn ddigon da i neud cyfweliadau ar y radio neu deledu....teimlo'n ddihyder rhag ofn iddyn nhw gael eu beirniadu.

'Amrywiaeth barn yn bwysig'

Ar ôl cellwair bod yna ddadl dros ddweud mai Capel Garmon, ac nid Llanrwst, yw cartref y Brifwyl eleni gan fod y maes yn agosach i'w bentref genedigol, dywedodd nad oedd eisiau "creu rhaniadau... oherwydd mae yna ddigon o hynny'n yn digwydd yn y byd yma heddiw yn does hefo'r holl begynnu barn".

Ag yntau'n cyflwyno Post Cyntaf ar Radio Cymru, a Taro'r Post yn y gorffennol, dywed bod timau cynhyrchu rhaglenni "yn trio'n gorau i glywed amrywiaeth barn ar ein rhaglenni" ond bod "pobl yn gofyn wrtha'i weithia pam andros ti'n gadael i'r garfan yna ddod ar y radio i siarad a gneud drwg i ni.

"Hynny ydi, rhywun ma' nhw'n anghytuno â nhw… ond mi ydan ni'n g'neud hynny er mwyn creu y darlun cyflawn a dangos nad ydi pawb yn meddwl r'un fath.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â Post Cyntaf, mae Dylan Jones hefyd yn cyflwyno Ar Y Marc ar Radio Cymru

"Y gwir amdani ydi, os ydan ni am drïo tawelu rhai safbwyntiau ar ein cyfryngau, mi ydan ni'n gofyn am drwbwl.

"Mae Cymru yn wlad ddemocrataidd a rhyddid i fynegi barn. A siawns fod gyno ni ddigon o hyder fel cenedl i barchu safbwyntiau sy'n wahanol i rai ni ein hunain a chael trafodaeth synhwyrol, yn enwedig y dyddia' yma lle mae yna gymaint o bolareiddio gwleidyddol yn digwydd.

"Does dim rhaid cytuno â'r farn arall ac mae gwrando'n holl bwysig."

Ychwanegodd bod cynnwys safbwyntiau amrywiol mewn rhaglenni yn bwysicach fyth mewn oes lle mae gymaint o bobl yn cael eu newyddion o'r cyfryngau cymdeithasol, sy'n golygu eu bod yn "dewis y safbwyntiau ma' nhw am eu clywed... ac felly yn dewis anwybyddu yr ochor arall yn fwriadol."