Urddo aelodau newydd i Orsedd y Beirdd yn Llanrwst
- Cyhoeddwyd
Mae dros 30 o aelodau newydd wedi cael eu croesawu i Orsedd y Beirdd ar faes Eisteddfod Sir Conwy ddydd Gwener am eu cyfraniad arbennig i Gymru.
Roedd nifer aelodau newydd eisoes wedi cael eu hurddo i'r Orsedd ddydd Llun, gan gynnwys y chwaraewyr rygbi Jonathan Davies a Ken Owens, ac enillwyr prif seremonïau Eisteddfod Bae Caerdydd y llynedd.
Ymysg yr enwau cyfarwydd gafodd eu hurddo ddydd Gwener oedd y comedïwr Tudur Owen, y delynores Catrin Finch a'r cerddor Geraint Løvgreen.
Er ei bod yn braf ar y maes fore Gwener, roedd y seremoni'n cael ei chynnal yn y Stiwdio Ddawns oherwydd rhagolygon o law.
Dywedodd yr Archdderwydd eu bod wedi gorfod gwneud "penderfyniad anodd" i symud dan do oherwydd bod addewid o "gawod drom" yn ystod y seremoni.
Bydd Ms Finch a Mr Løvgreen, oedd yn derbyn y wisg werdd, yn cael eu hadnabod yn yr Orsedd gyda'u henwau arferol, tra bod Mr Owen, yn ei wisg las, wedi dewis yr enw Tudur Trefri.
Un arall gafodd ei urddo gyda gwisg las oedd y gŵr busnes o Fangor, Gari Wyn, fydd yn ymuno â'r Orsedd fel Gareth Bryn Lleithog.
'Fwy cartrefol yn canu!'
Dau arall cyfarwydd sydd wedi ymuno â'r Orsedd ydy John Jones ac Alun Roberts - sy'n fwy adnabyddus fel y ddeuawd, John ac Alun.
Fe fyddan nhw'n cael eu hadnabod dan yr enwau Gorseddol John o'r Felin ac Alun o'r Post.
Roedd un oedd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei hurddo hefyd, gyda Grace Jones, sy'n wreiddiol o Seland Newydd, yn dewis yr enw barddol Grace o'r Nant.
Dywedodd Mr Løvgreen bod y seremoni wedi bod yn "brofiad eithaf rhyfedd" ac yn "rhywbeth sy'n hollol wahanol i'r arfer".
"Dwi'n lawer fwy cartrefol yn canu mae'n rhaid i mi ddweud!" meddai.
"O'n i'n eithaf nerfus cyn i'r seremoni ddechrau, oedd o'n teimlo'n debyg i seremoni radio neu rywbeth fel 'na.
"Ond roedd cael fy newis wir yn anrhydedd. Pan ges i'r llythyr yn y lle cyntaf o'n i'n gofyn i'n hun os oedd yr holl beth yn spoof!
"A ti'n dueddol o feddwl bod yna bobl eraill sy'n haeddu fo lot mwy na chi, ond roedd o wir yn deimlad arbennig."
Un arall dderbyniodd wisg werdd ydy'r newyddiadurwr Bethan Kilfoyle, ddewisodd yr enw Bethan Nantur.
Roedd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, hefyd yn cael ei urddo, gan ddewis yr enw barddol Haesor o Gwm Eidda.
Cafodd un aelod newydd - Dennis Williams o Lanfairpwll, sy'n adnabyddus am ei waith gyda bandiau pres - ei urddo yn ei absenoldeb oherwydd salwch.
'Profiad hollol ffab'
Dywedodd Ms Finch bod cael ei derbyn wedi bod yn "brofiad hollol ffab".
"Dwi wedi bod yn dod i'r Eisteddfod ers blynyddoedd ac felly'n gyfarwydd â'r seremonïau ac ati, ond roedd cael bod yn rhan o'r holl beth yn grêt," meddai.
"Mae'n rhywbeth sbesial i gael eich dewis i fod yn rhan o'r seremoni.
"Roedd o'n brofiad gwahanol, ond rhywbeth oeddwn i'n edrych ymlaen yn fawr ato."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2019
- Cyhoeddwyd9 Mai 2019