Apêl heddlu wedi anaf difrifol i ddyn 53 oed yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Car heddlu

Mae dyn 53 oed wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol wedi digwyddiad ger goleuadau traffig yn Llanelli nos Sadwrn.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, roedd nifer o bobl yn rhan o'r digwyddiad a ddaeth â thraffig i stop ger cyffordd yn ardal Pemberton y dref.

Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achos niwed corfforol difrifol.

Mae'r dyn a gafodd ei anafu yn cael ei drin yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yng Nghaerdydd, wedi'r digwyddiad tua 20:00 ger parc manwerthu brysur.

Dywed yr heddlu nad oes amheuaeth bod unrhyw arfau wedi cael eu defnyddio.

Wrth apelio am wybodaeth a lluniau dashcam all helpu'r ymchwiliad i'r achos, dywed y llu bod hi'n bosib bod nifer o yrwyr yn yr ardal ar y pryd a fyddai wedi gorfod gyrru oddi yna i osgoi'r sefyllfa.