Ymateb syfrdanol i ymgyrch gwrth-gyllyll yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Marvin Heron
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r person sydd wedi dechrau'r ymgyrch, Marvin "Starvs" Heron, yn adnabod pobl sydd wedi'u lladd gan droseddau cysylltiedig â chyllyll

Mae elusen Barnardo's Cymru wedi croesawu ymgyrch gwrth-gyllyll yng Nghaerdydd.

Hyd yn hyn, mae dros 100 o bobl wedi cymryd rhan yn her #KnivesDownChallenge19 a ddechreuwyd bythefnos yn ôl gan Marvin Heron o Lanrhymni.

Mae'r her yn galw ar unigolion i ganu cân neu rap ar guriad wedi ei greu gan Marvin - un sydd â phrofiad personol o droseddau cyllyll.

Mae troseddau o'r fath yn cynyddu ar raddfa gyflymach yng Nghymru nag unrhyw ranbarth o Loegr, gan gynnwys Llundain.

Yn ôl Marvin, sy'n cael ei adnabod fel Starvs, mae'r her eisioes wedi cael ymateb 'syfrdanol'.

"Mae'r ymateb," meddai, "wedi bod yn rhyfeddol ac mae'r gefnogaeth wedi bod yn aruthrol. Dw i eisoes wedi cael plant yn anfon negeseuon yn dweud eu bod wedi stopio cario cyllyll oherwydd hyn i gyd."

"Dw i'n 'nabod pobol sydd wedi colli eu bywydau. Dw i'n 'nabod pobol sydd yn y carchar am amser hir am ddefnyddio cyllyll."

'Dyw e ddim yn cŵl'

Mae Shayah-Nevaeh, sy'n bump oed ac o Gasnewydd ymhlith y rhai sydd wedi cymryd rhan yn yr her. Mae'n poeni y gallai ei brawd ddioddef yn sgil troseddau gyda chyllyll.

Disgrifiad o’r llun,

Mae troseddau cyllyll ymhlith plant yn frawychus, medd Ashanti Webbe sydd wedi recordio cân ar gyfer yr her

Mae ei mam, Ashanti Webbe, 32, wedi recordio cân ar gyfer yr her ac yn dweud ei bod yn poeni am ddiogelwch ei mab 14 oed, Leontay.

"Chi ddim moyn eich plant gael eu llusgo i gario cyllell, neu hyd yn oed gael eu dal mewn sefyllfa o gael eu trywanu," meddai.

"Oherwydd gall unrhyw un gael ei drywanu ac mae ar gynnydd ac yn frawychus."

Yn ol Ashanti, mae gan rieni fel hi ran ganolog i chwarae mewn 'gwthio' plant i'r 'cyfeiriad cywir'.

"Mae'n rhaid i ni wneud iddyn nhw sylweddoli, dyw e ddim yn cŵl a dyw e ddim yn iawn i gymryd bywyd rhywun. Dyw hi ddim yn iawn i drywanu rhywun."

'Cyllyll yn rhan o fywyd'

Rhwng mis Ebrill 2018 a Mawrth 2019, roedd 1,375 o droseddau yn ymwneud â chyllyll neu offerynnau miniog yn Nghymru - cynnydd o 20% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Tra bod y ffigyrau yn isel o gymharu gyda rhai o ddinasoedd mwyaf y Deyrnas Unedig, mae troseddau o'r fath yn cynyddu ar raddfa gyflymach yng Nghymru nag unrhyw ranbarth yn Lloegr - gan gynnwys Llundain.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Matthew Reed yn arfer cario cyllell nes i'w ffrind 22 oed gael ei ladd mewn parti pen-blwydd

Cafodd ffrind Matthew Reed, David Mukbill o Dre-biwt yng Nghaerdydd, ei drywanu i farwolaeth yn ystod parti pen-blwydd yn 2004. Roedd yn 22 oed.

Nawr mae Matthew, sy'n 40, yn rhedeg tudalen cyfryngau cymdeithasol yng Nghaerdydd, lle mae wedi cyhoeddi ei rap.

"Ro' ni'n arfer cario cyllell," meddai.

"Ar y pryd, doeddwn i ddim yn sylweddoli yr effeithiau o gario cyllell a be' fydde'n digwydd os y byswn i'n defnyddio cyllell ar rywun. Ond fe wnes i sylweddoli ar ôl colli fy ffrind David bod hynny'n rhoi persbectif ar bethau."

Mae'n dweud bod cario cyllyll bellach yn cael ei weld fel "rhan o fywyd" gan bobl ifanc yn y ddinas.

"Fe allwch chi ddweud ei fod o'n afiechyd ar hyn o bryd, doedd neb yn disgwyl iddo ddigwydd yng Nghaerdydd.

"Mae pobol wedi cymryd at yr her yma ac mae wedi lledaenu'r neges yn gyflymach, efallai, na gwleidyddion yn helpu na'n cymryd rhan."

Croesawu'r her

Mae'r elusen plant, Barnardo's wedi croesawu'r her.

"Dwi'n meddwl ei fod yn syniad arbennig," meddai Meinir Williams-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant Gogledd Cymru yr elusen.

"Does na ddim llais mwy cryf na phlant a phobl ifanc eraill. Mae peer pressure yn beth mawr.

"Dwi'n hollol grediniol bod o'n ffordd dda o fynd ymlaen."

Mae Marvin Heron nawr yn gobeithio y bydd ei her yn denu sylw artistiaid o weddill y DU er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r peryglon o gario cyllyll.