Gareth Anscombe i fethu Cwpan Rygbi'r Byd gydag anaf
- Cyhoeddwyd
Bydd maswr Cymru, Gareth Anscombe yn methu Cwpan Rygbi'r Byd ar ôl cael ei anafu yn y golled i Loegr ddydd Sul.
Anafodd Anscombe, 28, ei ben-glin yn hanner cyntaf y gêm baratoadol yn Twickenham.
Nid yw'n glir pryd y bydd yn holliach eto.
Mae'n golygu mai Dan Biggar, Jarrod Evans a Rhys Patchell yw'r tri maswr sy'n weddill yng ngharfan estynedig Cymru.
Anscombe yw'r ail enw mawr i fethu'r gystadleuaeth ar ôl i'r wythwyr Taulupe Faletau anafu ei ysgwydd.
Mae mewnwr y Gleision, Tomos Williams, yn cael prawf i asesu anaf a gafodd i'w ysgwydd yn y gêm yn erbyn Lloegr ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2019