Gêm galed i Gymru wrth baratoi am Gwpan y Byd yn Japan
- Cyhoeddwyd
Mae record ddiguro Cymru wedi dod i ben gyda cholled yn erbyn Lloegr wrth i'r garfan baratoi ar gyfer pencampwriaeth Cwpan y Byd yn Japan, sy'n dechrau mis nesaf.
Roedd Cymru'n ffefrynnau i ennill wrth gyrraedd Twickenham wedi rhediad 14 o gemau heb golli.
Ond fe gafodd Lloegr y gorau o'r chwarae o bell ffordd yn chwarter cyntaf y gêm ac wedi pedwar o funudau yn unig roedden nhw saith pwynt ar y blaen wedi cais Billy Vunipola a throsiad George Ford.
10 munud yn ddiweddarach roedd tîm Eddie Jones â mantais o 14 o bwyntiau, wedi i Joe Cokanasiga dirio ac ail drosiad Ford.
Daeth pwyntiau cyntaf Cymru wedi 22 o funudau, diolch i gais unigol gwych gan Gareth Davies.
Llwyddodd y mewnwr i godi'r bêl o gefn y sgrym gan gamu heibio tri o amddiffynwyr Lloegr ac osgoi ymdrech Elliot Daly i'w atal cyn tirio.
Gyda throsiad llwyddiannus Gareth Anscombe roedd y sgôr yn 14-7.
Roedd Gatland wedi dweud cyn y gêm bod yna le i feirniadu'r penderfyniad i chwarae gymaint o gemau paratoadol cyn Cwpan y Byd oherwydd y posibilrwydd o anafiadau i aelodau'r garfan.
Ac roedd yna olwg bryderus ar ei wyneb pan gafodd Anscombe anaf i'w ben-glin a gorfod gadael y cae wedi 34 o funudau gyda chymorth staff meddygol.
Dan Biggar ddaeth i'r maes yn ei le.
Roedd munud olaf yr hanner cyntaf yn un hunllefus wedyn i gapten Cymru, Alun Wyn Jones yn ei 135ain gêm ryngwladol.
Llithrodd y bêl trwy ei fysedd wedi tafliad o lein Cymru gan lanio'n daclus i fachwr Lloegr, Luke Cowan-Dickie oedd ond ag ychydig o fedrau i redeg cyn tirio.
Wedi trydydd trosgais Lloegr roedd y sgôr yn 21-7 ar yr egwyl.
Roedd yna batrwm tebyg i'w ail hanner, gyda Chymru wastad yn ceisio cau'r bwlch.
Roedd yna geisiadau gan George North ac Alun Wyn Jones a throsiad gan Biggar ond fe wnaeth ciciau cosb Ford a gôl adlam Elliot Daly olygu mai 33-19 oedd y sgôr derfynol.
Methu felly wnaeth Cymru i sicrhau 15fed buddugoliaeth o'r bron - canlyniad sydd hefyd yn golygu na fydd Cymru'n bachu safle rhif un ar restr detholion y byd.
Roedden nhw ar y brig yn answyddogol am dros 24 awr wedi i Seland Newydd golli i Awstralia, ac fe fyddai hynny wedi ei gadarnhau'n swyddogol petaen nhw wedi osgoi colli yn erbyn Lloegr.
Bydd yna ddigon i Gatland a gweddill y tîm hyfforddi gnoi cil arno cyn i'r ddau dîm gwrdd eto yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf, gan gynnwys osgoi camgymeriadau wrth drin y bêl.
Ond fe fydd yna aros eiddgar i weld beth yw cyflwr Anscombe wrthi iddo adael Twickenham ddydd Sul ar faglau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2019
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019