Trefn ariannu hyfforddiant heddlu yn 'lletchwith'
- Cyhoeddwyd
Mae'r drefn newydd o ariannu hyfforddiant heddweision Cymru yn "lletchwith", yn ôl Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd Dafydd Llywelyn nad ydy lluoedd yn sicr o le daw'r arian i ariannu prentisiaethau newydd.
Mae prentisiaethau'n gonglfaen i gyrsiau hyfforddiant newydd y Coleg Heddlua, fydd yn golygu bod pob heddwas yn gorfod cael gradd.
Bydd modd ennill y cymhwyster drwy brentisiaeth, neu gymhwyso cyn ymuno'n llawn â'r heddlu.
Mae Prif Weithredwr y Coleg Heddlua yn dweud bod "y rhan fwyaf o heddluoedd yn paratoi am y newid".
'Llugoer'
Er yn croesawu'r drefn newydd o hyfforddi, dywedodd Mr Llywelyn bod ansicrwydd am sut y dylai'r heddlu ariannu'r prentisiaethau.
"Be' sydd yn lletchwith ar hyn o bryd yw ein bod ni'n talu'r apprenticeship levy i'r Trysorlys yn Llundain, ond 'yn ni'n trio cael yr arian allan o Lywodraeth Cymru gan fod hyfforddiant ac addysg wedi'i ddatganoli," meddai.
"'Dyn ni fel lluoedd ar hyn o bryd ddim yn sicr o'r arian fydd ar gael i ni i ddarparu ar gyfer yr hyfforddiant yma yn y dyfodol."
Mae comisiynwyr De Cymru a Gwent, Alun Michael a Jeff Cuthbert, yn cefnogi'r drefn hyfforddi newydd, tra bod comisiynydd y gogledd, Arfon Jones, yn "llugoer" am y syniad, gan ddweud ei fod yn poeni y bydd hyfforddi'n cymryd llawer o amser.
Ond yn ôl y cyn-heddwas a'r darlithydd, Alun Geufronnydd Hughes, mae gorfodi darpar heddweision i wneud gradd yn peryglu amrywiaeth cymdeithasol yr heddluoedd.
"Fedra' i feddwl am amryw o fyfyrwyr oedd ganddon ni [mewn coleg addysg bellach] oedd yn gwneud yn iawn yn BTEC, ond doedd ganddyn nhw ddim diddordeb mewn gradd," meddai.
"Ac i ddweud y gwir, doeddan nhw ddim yn arbennig o academaidd, roeddan nhw'n dda mewn ffyrdd eraill.
"Mi gawson nhw'r cymhwyster ganddon ni, ac mi aethon nhw ymlaen i'r heddlu.
"Maen nhw wedi troi allan i fod yn heddweision da, effeithiol, a'r peryg ydy y byddai'r heddlu wedi colli allan ar y bobl 'na tasa'r rheol yma [mewn grym] yr adeg honno."
Dywedodd Prif Weithredwr y Coleg Heddlua, y Prif Gwnstabl Mike Cunningham, nad yw'r ffordd mae heddweision yn cael eu hyfforddi wedi newid llawer yn yr 13 mlynedd diwethaf, a bod lluoedd wedi dweud nad yw'n cyrraedd gofynion modern yr heddlu o weithio.
"Mae'r hyfforddiant newydd wedi'i greu drwy wrando ar gydweithwyr, ac fe gytunwyd os yw swyddogion yn gweithio i gael gradd y dylen nhw gael eu cydnabod am hynny a'u hyfforddi'n gywir.
"Mae'r rhan fwyaf o'r lluoedd yn paratoi am y newid yma."
Anghytuno llywodraeth Cymru a'r DU
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod heddlua yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU o dan gynllun presennol datganoli.
"[M]ae Llywodraeth Cymru yn glir nad yw'n gyfrifol am ariannu tymor hir Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu. Mae'r Swyddfa Gartref yn anghytuno â'r farn hon," meddai llefarydd.
"Fel arwydd o ewyllys da gan Weinidogion Cymru, cytunwyd ar becyn cyllid ar gyfer 2018-2019 yn unig rhwng y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru.
"Fe wnaeth hyn alluogi pedwar heddlu Cymru i baratoi ar gyfer y newid yn y trefniadau hyfforddi ar gyfer eu staff mewn iwnifform, ond ni thalodd am yr hyfforddiant hwnnw mewn gwirionedd.
"Gwnaeth gweinidogion Cymru hefyd yn glir na fyddai cyllid o'r fath ar gael yn y blynyddoedd i ddod. Er hynny, mae gweinidogion yn cefnogi prentisiaethau ar gyfer staff sifil a gyflogir gan bedwar heddlu Cymru. "
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd17 Awst 2017
- Cyhoeddwyd10 Mai 2017