Cwpan y Gynghrair: Abertawe 3-1 Northampton Town
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe wedi sicrhau eu lle yn ail rownd Cwpan y Gynghrair wedi iddynt frwydro 'nol i drechu Northampton Town o 3-1.
Yr ymwelwyr - sy'n chwarae yn Adran 2 - aeth ar y blaen wedi 61 munud wrth i Matthew Warburton lwyddo i grymanu'r bêl i gornel isaf y rhwyd o ymyl y cwrt cosbi.
Ond roedd gôl Warburton yn ddigon i sbarduno newid ym mhatrwm chwarae y tîm cartref, gyda'r eilydd Andre Ayew yn bygwth ar sawl achlysur.
Ac Ayew ddaeth ag Abertawe yn gyfartal wedi 80 munud wrth iddo benio'r bêl heibio'r golwr yn dilyn amddiffyn llac gan Northampton.
Fe aeth yr Elyrch ar y blaen dau funud yn ddiweddarach diolch i ergyd gywir George Byers o du allan i'r cwrt cosbi.
Fe ychwanegodd Ayew drydedd i Abertawe ar ôl 88 o funudau i sicrhau eu lle yn yr ail rownd.
Cambridge United fydd yn teithio i Stadiwm Liberty yn yr ail rownd, a bydd Caerdydd yn herio Luton Town yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2019
- Cyhoeddwyd3 Awst 2019