'Dim ateb syml' i broblemau trenau Cymru medd arbenigwr
- Cyhoeddwyd
Nid oes ateb syml i ddatrys gorlenwi ar drenau ac mae gwelliannau i'r rhwydwaith drenau yn ehangach am gymryd amser, meddai arbenigwr yn y diwydiant.
Yn ôl yr Athro Stuart Cole, daw nifer o'r problemau sy'n wynebu Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd o ganlyniad i ddiffyg buddsoddi yn y gorffennol.
Ychwanegodd y dylai'r cwmni fod wedi ystyried gohirio'r gwaith o ddefnyddio eu brand nhw ar wasanaethau tan fod y gwelliannau wedi eu cwblhau.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw'n "hyderus" y bydd gwasanaethau yn gwella yn y tymor hir.
'Sawl problem'
Fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru olynu Arriva fel y darparwr ar reilffyrdd Cymru a'r Gororau ym mis Hydref 2018.
Ond mae'r cwmni wedi cael eu beirniadu gan deithwyr yn dilyn oedi i wasanaethau ac achosion o orlenwi ar drenau.
"Mae sawl problem yn ymwneud â'r rhagflaenwyr - ond nid o reidrwydd Arriva Trains gan fod rhaid iddyn nhw gadw at gyfyngiadau arbennig," meddai'r Athro Cole.
"Roedd y gwasanaeth wedi cael ei gynllunio i weithio ar i lawr, fel bod modd i'w gau yn y pendraw. Ond ni ddigwyddodd hynny, ac fe benderfynodd pobl Cymru eu bod nhw am ddefnyddio trenau."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi £738m mewn rheilffyrdd yn y cymoedd ac £800m er mwyn sicrhau bod 95% o siwrneiau erbyn 2023 ar drenau newydd.
Ac yn ôl yr Athro Cole mae hi'n ddigon posib y gallai'r cwmni lwyddo: "Mae'r sefydliad yn datblygu, ac yn aeddfedu i fod yn eithaf tebyg i Transport for London - sefydliad hynod o lwyddiannus.
"Ond does dim modd osgoi'r ffaith bod trenau yn yr amseroedd prysuraf yn orlawn. Mewn gorsafoedd fel Radyr a Llandaf mae pobl sydd eisiau teithio i gyfeiriad Llundain yn cael eu gadael ar ôl."
Ychwanegodd: "Nid oes ateb syml wnaiff ddatrys hyn."
Mae rhai o'r problemau diweddar wedi dod o ganlyniad i'r ffaith bod nifer o drenau wedi cael eu tynnu yn ôl er mwyn cynnal gwaith angenrheidiol.
Dywedodd Colin Lea, cyfarwyddwr profiad cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod fod rhai gwasanaethau wedi bod yn fwy llawn na'r arfer dros y dyddiau diwethaf a hoffwn ymddiheuro i'n cwsmeriaid am yr amgylchiadau anodd.
"Daw hyn o ganlyniad i waith adnewyddu angenrheidiol sy'n digwydd ar hyn o bryd yn ogystal â chyflwyno technoleg newydd i'r rhwydwaith - technoleg ry'n ni'n hyderus fydd yn gwella'r gwasanaeth yn y tymor hir."
Ychwanegodd yr Athro Cole y dylai Trafnidiaeth Cymru fod wedi ystyried oedi cyn cyflwyno eu brandio nhw ar hyd y gwasanaeth tan fod y gwelliannau wedi cael eu cyflwyno.
"Ond dyna ni, maen nhw wedi 'neud be maen nhw wedi 'neud ac felly bydd unrhyw feirniadaeth nawr yn cael ei anelu at Trafnidiaeth Cymru."
Prisiau'n cynyddu 2.8%
Hefyd ddydd Mercher daeth cyhoeddiad y bydd prisiau tocynnau trên yn cynyddu 2.8% y flwyddyn nesaf.
Mae'n golygu y byddai tocyn tymor rhwng Castell-nedd a Chaerdydd yn cynyddu £49 o £1,760 i £1,809
£1,300 oedd cost tocyn tymor rhwng Bangor a Llandudno eleni, ond bydd hynny'n codi £36 i £1,336 yn 2020.
Yn y cyfamser daeth cyhoeddiad mai cwmni First Trenitalia fydd yn rhedeg y gwasanaethau rhwng gogledd Cymru a Llundain o fis Rhagfyr eleni.
Nhw fydd yn cymryd lle Virgin, ac fel rhan o'r gwelliannau maen nhw'n addo mae addewid y bydd eu trenau hefyd yn stopio yn Llandudno yn y dyfodol.
Ymysg eu haddewidion eraill mae gwneud gwelliannau i orsafoedd, mwy o seddi, mwy o drenau a threnau sy'n well i'r amgylchedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019